Monday, February 18, 2008

byth bythoedd

dyma ni'n dal i aros am enwau ar gyfer y gath fach druan sy heb ei henwi o hyd, ac rwy'n gofyn ifi fy hunan pam nad ŷn ni at ein clustiau mewn enwau cathod yn barod. oes posib bod hi'n amheus gan bobl a fydd y gwobrau ar gyfer y gystadleuaeth cystal ag rwy 'di awgrymu?
o, ie? wel be' chi'n feddwl o hwn, 'te?
ac nid y wobr gyntaf mo hwnna 'chwaith!

1 comment:

Gwybedyn said...

hei - llun fach ddigidol o ddarn o emwaith yw _ail_ wobr y gystadleuaeth hon!?!?!

co enw arall i'r gath, felly: Y Blew

[sef enw na fydd yn ymddangos yn ei holl odidowgrwydd mwyseiriol i'r rheiny ohonoch nad ydych wedi bod yn talu digon o sylw i orffennol gwych cerddoriaeth roc Gymraeg!]