Monday, February 11, 2008

brwm-brwm


chimod be' rwy'n moyn? car tair olwyn. neu fan dair olwyn falle, fel y rei ti'n gweld yn yr eidal.
y fi yn gyrru. ffrind yn y cefen. gwych.

3 comments:

Rhys Wynne said...

Tra'n gweithio yn y gegin mewn gwesty yn ystod fy ngwyliau haf, roeddwn weihtiau'n mynd i gasglu'r 'neges' (gair GDn am 'the shopping') mewn fan fechan o'r enw Honda Sumo. Roeddw ond yn 17/18 ar y pryd ac heb gar eto ac wedi dechrau mynychu llawer o wyliau cerddoriaeth. Penderfynais mai fy ngherbyd cyntaf fyddai Vauxhall Rascal. Pan ddaeth hi'n amser i mi fforddio (a bod wir angen cerbyd) cerbyd fy hun pan oeddwn yn 21 oed, oreddwn dal eisiau fan and perswadiodd fy rhieni a'm cariad byddai car ychydig mwy ymarferol yn enwedig os byddwn yn gorfod teithio pellteroedd mawr - ond eto, byddai fan fach wedi bod mor cwl!

Gwybedyn said...

Ai yn y gogledd-ddwyrain yn unig mae 'negeseuon' yn golygu 'pethau i'w mo'yn o'r dref'? Rwy' di clywed y gair yn Sir Gâr a Sir Frycheiniog, ac wrth gwrs ar lafar yn Saesneg ceir 'messages' mewn sawl man yn golygu'r un peth.

Beth yw 'neges' yn y bôn ta beth ond rhywbeth 'angenrheidiol'? [o'r un tarddiad â'r Lladin 'necesse, necessum', sy'n rhoi'r Ffrangeg 'necessaire' ac ati]

Felly, yn yr achos yma, rydyn ni'n sgwennu negeseuon yn sôn am eisiau neges i nôl negeseuon ynddi!

asuka said...

mae faniau'n wych, rhys, 'sdim dwywaith amdano fe, pa un ai angenrheidiol neu waharddedig gan dy deulu di. diolch am dy hanesyn, ac am y ddolen hefyd - am fan olygus! rwy'n *siwr* byddai hi 'di bod yn ddefnyddiol iawn.