Tuesday, January 08, 2008

i'r sawl sydd wrthi'n dysgu cymraeg...


ces i ail gip ar y llyfr newydd 'na "teach yourself welsh grammar" tra own i yn y dre' heddi. ac er leiciwn i glywed beth mae pobl eraill yn feddwl ohono, rhaid cyfadde' 'mod i'n ei leicio fe!
sa' i'n siwr yn union ffordd byddai dysgwyr yn iwso'r llyfr, sy'n cynnwys ymarferion yn ogystal â gormod o wybodaeth i'w chofio ar unwaith, ond mae'n edrych yn ddigon eglur i ddarllen o glawr i glawr. rwyf am wybod beth mae szch yn feddwl o'r ffurfiau mae'r awduron 'di dewis ond rwy'n dwlu ar y ffaith bod 'na bennod gyfan ar y fodd ddibynnol. gwych!
gobeithio ichi joio'r llun o mahoro uwchben gyda llaw.

2 comments:

Gwybedyn said...

ach! welais i mo gopi dros y gwyliau, a dyma fi yn awr yn ôl yn UDA, lle nad oes gopi yn y llyfrgell eto. Asuka - os wyt ti'n dod lan ffordd hyn, dere â dy gopi gyda ti. Yn y cyfamser, dyma fi'n mynd draw i gwales.com i archebu copi i fi fy hunan.

Gwybedyn said...

rwy'n gweld fod 'Teach Yourself Welsh Conversation' ar gael hefyd, o'r un stabl...