Thursday, November 29, 2007


4 comments:

Malone said...

Dwi'n cytuno, mae "Ngwr i" yn edrych yn ryfedd iawn. Mae'n eitha anodd i'w ynghanu hefyd. "Ngwr i." "Ngwr i." "Gollum." "Gollum."

Ydy pobl yn dweud "'tha i" yn lle na "wrtha i"?

Gwybedyn said...

Rwy'n credu ei fod e'n beth eithaf naturiol i ddweud /tha i/.

Ond mae'n fater hollol wahanol a ddylid sgwennu'r peth fel'na.

Ond beth am dreiglo'n feddal ar o^l 'pryd'?

Malone said...

Beth amdani hi? Dwi wedi gweld "pryd (treiglad meddal) yn eitha aml yng nghwestiynau. ("Pryd ddylwn i fynd"? "Pryd ddylwn i wneud cais"? Ond hefyd "Pryd y dylwn i . . .") Ydy hynny'n anghywir?

Gwybedyn said...

mae'n gwestiwn diddorol. Cymal perthynol traws (yn ieithwedd PWT) sy'n dilyn "pryd", ac felly mewn cyd-destunau ffurfiol dylid dweud "Pryd y..." (heb ddim treiglo). Mae'n debyg bod colli'r "y" yn dderbyniol hefyd, ond yn anffurfiol (mae'r TM yn opsiwn). Hoffwn i wybod _pam_ y gwelir treiglad meddal yn y cyd-destun hwn: ai hyst enghraifft o gyffredinoli'r TM ar ddechrau cymalau yw ef, neu a oes reswm arall?

Hwyrach taw'r un peth sy'n digwydd yn "Yn Nolgellau ges i [']ngeni" - does dim rheswm da dros dreiglo "ces" yn "ges" yn y fan hyn, nac oes?

Ta waeth - mae'n ddiddorol o beth.

Mae'n gas gen i'r ffaith fod y Brenhinyn yn amharchu'r treiglad llaes!