Beth amdani hi? Dwi wedi gweld "pryd (treiglad meddal) yn eitha aml yng nghwestiynau. ("Pryd ddylwn i fynd"? "Pryd ddylwn i wneud cais"? Ond hefyd "Pryd y dylwn i . . .") Ydy hynny'n anghywir?
mae'n gwestiwn diddorol. Cymal perthynol traws (yn ieithwedd PWT) sy'n dilyn "pryd", ac felly mewn cyd-destunau ffurfiol dylid dweud "Pryd y..." (heb ddim treiglo). Mae'n debyg bod colli'r "y" yn dderbyniol hefyd, ond yn anffurfiol (mae'r TM yn opsiwn). Hoffwn i wybod _pam_ y gwelir treiglad meddal yn y cyd-destun hwn: ai hyst enghraifft o gyffredinoli'r TM ar ddechrau cymalau yw ef, neu a oes reswm arall?
Hwyrach taw'r un peth sy'n digwydd yn "Yn Nolgellau ges i [']ngeni" - does dim rheswm da dros dreiglo "ces" yn "ges" yn y fan hyn, nac oes?
Ta waeth - mae'n ddiddorol o beth.
Mae'n gas gen i'r ffaith fod y Brenhinyn yn amharchu'r treiglad llaes!
Ceir yma flogio achlysurol gan fyfyrwyr yn Adran Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Harvard. A cheir bob wythnos flogiad neu ddau gan y rhai sydd ar hyn o bryd yn cymryd cwrs "Celtic 129r", sef yr ail semester o Gymraeg Modern.
4 comments:
Dwi'n cytuno, mae "Ngwr i" yn edrych yn ryfedd iawn. Mae'n eitha anodd i'w ynghanu hefyd. "Ngwr i." "Ngwr i." "Gollum." "Gollum."
Ydy pobl yn dweud "'tha i" yn lle na "wrtha i"?
Rwy'n credu ei fod e'n beth eithaf naturiol i ddweud /tha i/.
Ond mae'n fater hollol wahanol a ddylid sgwennu'r peth fel'na.
Ond beth am dreiglo'n feddal ar o^l 'pryd'?

Post a Comment