hei pawb,
ces i sioc go dda pe ddiwrnod pan ddefnyddiais i'r gair "anime" mewn gwers own i'n haddysgu yma yn y broncs a... dim ond un person ddeallodd e. myfyrwyr yn y coleg sy ddim yn gwybod beth yw "anime"!? gwnaeth imi ofyn oedd 'na ddiwylliant cyffredin o gwbwl. os oes, neu pe gallai 'na fod, beth fyddai fe, tybed? sa' i'n siwr pa mor gyffredinol rwy'n meddwl - yn yr u.d.a? yng ngorllewin y byd? beth ddylai fynd ar silabws ar gyfer diwylliant cyffredin? anime (wrth gwrs), doctor who, opera^u sebon awstraliaidd. oes rhywbeth arall sy'n haeddu lle?
Friday, November 02, 2007
oes diwylliant cyffredin?
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
14 comments:
s'mo i erioed wedi gweld anime, eto deallaf taw ryw Tom and Jerry cyfoes yw ef. Oes chwilod yn y rhaglen yma?
diwylliant cyffredin. does dim siawns. bydd y cymry ar wahan am byth. sneb a^ diwylliant cyfieithu cyn waeled a^ ni:
http://blogdogfael.org/2007/11/02/arwydd-yn-aberystwyth/
oes, mae'r rhan fwyaf o anime yn ymwneud a^ chwilod mewn gwirionedd. arddull y lluniau sy'n cuddio'r ffaith bwysig 'ma.
er mwyn dyn! newydd ddarllen dy neges ddiweddara' di. rwy'n credu dylai pob gwlad gael cyfrannu un peth at ddiwylliant cyffredin y byd. fyddai diddordeb 'da chymru mewn rhoi ei harwyddion?
ti'n iawn - o edrych yn agosach ar y peth, mae'n anodd gweld y gwa'nieth rhwng dy lun di a'm llun innau. Ydyn ni'n perthyn, tybed? Hei - ti'n ddel!
rwy'n treio peidio a^ defnyddio'r ymadroddion "ydyn ni'n perthyn?" a "ti'n ddel" gyda'i gilydd. mae'n hala'r neges anghywir.
on'd yw gw^r a gwraig yn perthyn?
diwylliant cyffredin...
I newid y trywydd. A glywoch chi am farwolaeth Ray Gravell? Dyn y dylai'r cof amdano ddod yn rhan o'n diwylliant cyffredin, gwa^r.
Pwy ydy Ray Gravell?
naddo, s.ch. - o diar, 'na drist. cytuno'n llwyr dylai ray gravell fod ar y rhestr.
chwaraewr rygbi, darlledwr, actor (rwy'n credu, er nad wy' 'di e weld e ar y sgri^n). rwy'n ei 'nabod e o achos y rhaglen radio oedd e'n gwneud yn ddiweddar. byddai'r bbc yn ei rhoi hi ar y we o bryd i'w gilydd.
'drycha ar y ddolen ar y rhestr newyddion 'Newyddion Ieithoedd Tlws', "cawr yn marw..."
gyda llaw, a., nid s.ch. mohonof eithr sz.ch.
Pa un gerdd, a pha un darn o feirniadaeth lenyddol yn ymwneud a^'r ieithoedd Celtaidd gyflwynech chi i'r diwylliant cyffredin? (gorau po mwyaf diweddar)
Oce^ - gewch chi un i bob iaith.
cerdd: 'Drysau' Twm Morys achos bod hi'n bryfoclyd ac yn gyfoes ac yn iwso lot o broest.
beirniadaeth: chwant dweud 'unrhyw beth gan Bobi Jones' am fod bron i neb, mae'n debyg, yn ei ddarllen, ond beth am 'Dan Lygaid y Gestapo' gan Seimon Brooks, neu - yn well, efallai , er na ches i hwyl ofnadwy'n ei darllen - Hwyaid, Cwningod a Sgwarnogod gan Sioned Puw Rowlands, y llyfr cyntaf a'r wn i, i wneud cymhariaeth ddiddorol rhwng estheteg yr ysgrif yn Tsiec ac yn Gymraeg tra'n cyfeirio at theori gyfandirol.
Post a Comment