Wednesday, November 14, 2007

cwestiwn pwysig

dyma gwestiwn pwysig iawn - a sylfaenol, efallai.

sut mae diffinio llinell mewn barddoniaeth?

hoffwn eich syniadau.

10 comments:

Malone said...

barddoniaeth gymraeg neu barddoniaeth saesneg?

(mae ymdeimlad gyda fi fod barddoniaeth gymraeg ydy mwy ffurfiol na saesneg, ond dwi ddim yn gwybod digon amdani.)

cwestiwn diddorol iawn. oes engraifft pennill rhydd gennoch?

"Let us be apart then like the panoptical chambers in ICU/patient X and patient Y, our names Magic Markered hurridly on cardboard/and taped pell-mell to the sliding glass doors, "Mary", "Donald", "Tory";/an indication that our presence there would prove beyond temporary, like snow flurry./Our health might be regained if aggressive medical action were taken, or despite/these best efforts, lost like missing children in the brambles of poor fortune."

asuka said...

cwestiwn diddorol.
byddwn i'n meddwl taw cysyniad *barddonol* yw'r llinell, ond un a all berthyn i nodweddion semantig, cystrawennol, ffonetig neu orgraffyddol.
yn gyffredinol iawn, gellir iwso llinellau i greu cymesureddau neu i gyflwyno toriadau, sbo. ond sa' i'n sicr o a ellir creu damcaniaeth gyffredinol o farddoniaeth ar wahân i'r syniadau mewn diwylliant barddonol y bydd darn penodol o farddoniaeth yn eu dilyn neu yn dadlau yn eu herbyn.

Malone said...

Dwi ddim yn sicr mod i'n deall dy pwnc olaf di, Asuka. Wyt ti'n dweud bod yr llinell mor naturiol i farddoniaeth?

asuka said...

rwyt ti newydd wneud y pwynt ro'n i'n treio ei wneud, mae'n debyg! sut gallai'r cysyniad o'r llinell mewn barddoniaeth sy ddim yn defnyddio llinellau hyd yn oed fod yn debyg i natur y llinell yn vergil?
ar yr un pryd, mae modd gwneud gosodiadau cyffredinol am farddoniaeth, o achos y ffaith bod ei hadnoddau wedi'u cyfyngu neu wedi'u hawgrymu gan y cyfrwng, nodweddion fel "articulation", gwahaniaethau, cymryd troeon ac ati. a heb os mae llinellau yn eithaf cyffredin mewn barddoniaeth...

Malone said...

ond beth am barddoniaeth 'avant-garde,' pethau fel "concrete poetry." Oes rhywbeth fel hyn yn Gymraeg?

Malone said...

Er enghraifft:

Augusto de Campos (Brazil) "Poema Bomba"

Eugen Gomringer (Switzerland) "Silencio"

Mary Ellen Solt (USA) "Flowers in Concrete"

Malone said...

does dim llinellau yma, ond mae'r "nodweddion fel "articulation", gwahaniaethau, cymryd troeon ac ati" wedi cael eu awgrymiad, beth bynnag. Ond mae'r effaith yn esthetig yn hytrach na semantig, am y rhan mwyaf, on'd ydy.

beth yw barddoniaeth, bois? Mae awdur John Fowles wedi dweud "we all write poems, it is simply that the poets are the ones who write in words." Oedd e'n gywir?

Gwybedyn said...

Enghraifft enwoca'r blynyddoedd diweddar ym marddoniaeth Gymraeg, am wn i, yw cerdd 'Awelon' gan Aled Jones Williams a enillodd y gadair iddo yn Eisteddfod Tyddewi, 2002. Cewch weld lun ar y gerdd fan hyn: http://www.cynghanedd.com/awelon/ ond fel y'i cyhoeddwyd yn wreiddiol nid oedd ond un 'llinell' o farddoniaeth yn llenwi rhwy dair tudalen, ac yn bennu gyda'r "coma mewn bocs" enwog. Mae hyn yn lun ar 'farddoniaeth goncrid', neu o leiaf mae'n benthyg ganddi. Fel y gallech gredu, bu cryn dipyn o drafod a checru ynghylch y gerdd hon.

Gwybedyn said...

sori - nid y gadair!

hen chwilen sili.

Gwybedyn said...

sut i ddiffino, felly, pam fod yr arwydd "/" yn digwydd yn y gerdd "Let us be apart". Mae 'na doriadau, mae'n wir, ond pan fo cerdd mor rhydd a^ hon, peth hollol fympwyol yw rhannu'r peth yn llinellau. Gydag Aled Jones Williams, hefyd - gellid torri'r peth mewn sawl ffordd. Nid yw 'llinell' yn golygu dim mewn barddoniaeth nad yw'n gaeth.

Mae 'cerddi' Solt yn hardd ofnadwy, ond nid barddoniaeth mohonynt. Wel, efallai eu bod nhw'n farddoniaeth, ond dydyn nhw ddim yn gerddi. Fel y dywedi, Persephone, mae ystyriaethau esthetig yn cymryd drosodd, a'r hyn sy'n digwydd yw bod cynfas harddwch yn cael ei brocio a'i bigo'n fa^n gan flaen tafod ystyr.