Monday, October 22, 2007

Pam s'mo pob myfyriwr yn dysgu Cymraeg?

Yn o^l Harvard magazine, ymhlith y 100 o bethau y dylid eu gwneud cyn gadael Harvard y mae'r rhain:

• Run naked across the Quad during Primal Scream

• Relive American history at Plimoth Plantation and in Lexington and Concord

• Study Welsh

• Go to a telescopic viewing night at the Harvard Observatory

• Read a book for pure pleasure


Lle maen nhw i gyd, felly!? Rhywle arall yn darllen cylcghronau eraill mae'n rhaid! Neu yn gwneud pethau hurt fel "darllen er mwyn pleser pur"!!!

5 comments:

asuka said...

falle byddai hi 'di gwneud gwaniaeth 'set ti 'di /pwysleisio/ bod y gwersi i'w cynnal yn noethlymun...

Gwybedyn said...

Hynny a wnaethpwyd, am a ddeallaf...

... catsiwtiau glas fydd yr addewid y tro nesaf, gyda lwc.

asuka said...

syniad da. beth am ailenwi'r cwrs yn wersyll archarwyr? cŵl. achub y byd... dysgu cymraeg... 'sdim lot o wahaniaeth a'r wn i. dim ond y siwtiau sy eisiau.

Gwybedyn said...

'Celtic 128' yw enw'r cwrs - beth am ei ailenwi'n 'Celtic 128 A.D.'? A gaem wedyn fynnu paent glas yn iwnifform swyddogol?

Anonymous said...

Nes i ddim o'r pethau y maen nhw'n eu awgrymu, ond nes i gymryd rhan yn Lingerie Study Break y Dudley Co-op ("Center for High-Energy Metaphysics," neu HEMP), ac roedd hynny'n hwyl. Dwn i'm ydan nhw ei wneud mwyach, ond y syniad oedd yr aeth llawer ohonom i mewn i Lamont (llyfrgell), i'r ystafell darllen, ac eistedd o gwmpas y lle, ac wedyn tynnodd ein dillad yn wraddol nes inni wisgo ein trons/bras - yr holl amser yn ymddwyn fel hyn oedd y peth mwyaf naturiol yn y byd. (Ac wedyn naethom ni ddawnsio ar y byrddau ayb.) Y syndod oedd y naeth y gwarchodwyr wrthod i'n [bwrw allan?] pan gwynodd rhywun.

(Sori, un peth nes i ddim tra o'n i fan 'na ydy dysgu'r Gymraeg, yn amlwg.)