Thursday, October 25, 2007

'Analysis'

Rhaglen Saesneg hynod ddiddorol ar Radio 4 yn siarad am ddwyieithrwydd a'r iaith Gymraeg yng Nghymru. Un o'r trafodaethau gorau ar y pwnc sydd wedi bod ar y cyfryngau Saesneg, er fod y bylchau yn y ddadl yn gwneud iti eisiau crio.

Mae mp3 o'r rhaglen ar gael yma.

7 comments:

asuka said...

diolch am y ddolen - edrychaf mla^n at wrando arni. alla' i mo'i wneud e ar hyn o bryd am fod chi'n gwybod pwy 'di mynd bant am ddeg diwrnod ac wedi mynd a^'r cyfrifiadur, felly yn y llyfrgell bydda' i'n darllen e-byst ac ati am sbel!

Gwybedyn said...

un o'r pethau mwyaf rhwystredig yn y rhaglen imi oedd ymwneud Aran Jones o Gymuned a^'r yahoo o Ogledd Lloegr. Enghraifft anffodus iawn o roi ochr anghywir dadl. Nid 'ddylet ti ddim fod wedi dod yma, a ddylai rhagor tebyg ichi ddim cael dod' sy'n mynd i ennill y dydd yn y pen draw (ac yn sicr nid ar Radio 4) ond 'rhaid i ni gydweithio i sylweddoli beth sy'n cael ei golli os nad ydych chi'n deall beth yw Cymru'. Ar waha^n i hynny roedd agwedd eithaf positif i'r rhaglen, a - fedra' i ddweud hyn? - cytbwys a rhesymegol, sef agweddau nad wyt ti'n eu clywed yn aml mewn trafodaethau Saesneg.

Gwybedyn said...

Wn i ddim, a dweud y gwir, faint o 'wirionedd' sydd ym mhob haeriad y rhaglen. Mae'r syniad o'r cysylltiad rhwng iaith ac hunaniaeth wedi tyfu, rwy'n credu, ymhlith y di-Gymraeg, ond mae agweddau'n gymhleth iawn. Rwy'n credu 'fod e'n ddigon hawdd dod o hyd i bobl fyddai'n dweud, 'ie, Cymro ydw i ac mae'r iaith yn bwysig' ond eto (fel y boi ar y rhaglen), hefyd ddim eisiau i neb hwrjio 'imperialaeth y Gymraeg' arnyn nhw. Mae'r sefyllfa'n gymhleth, gymhleth. Ac wedyn mae 'na ddigon o hyd nad ydyn nhw eisiau dim i'w wneud a^'r iaith , rwy'n siwr.

Ac yna mae 'na le i ddweud fod agwedd ychydig yn or-bositif i'r rhaglen. Nid ydw innau, yn sicr, yn teimlo mor dda a^ hynny am sefyllfa'r iaith. Mae hi lawer, lawer mwy bregus nag a awgrymwyd, yn fy marn i. Ond anhygoel o dda o beth oedd cael rhaglen bositif ar Radio 4, i fedru - efallai - gyfleu ychydig o wybodaeth i bobl 'Middle England'. Ac mi gafodd y stori dipyn o le ar wefan y rhaglen, hefyd - ac ar y tudalenau newyddion.

asuka said...

ti'n gwneud iddo fe swnio'n hynod o ddiddorol - drueni nad oes cyfrifiadur 'da fi gartre' ar hyn o bryd. gobeithio bydd y peth yn dal ar y we erbyn ifi gael gwrando arno!

Aran said...

...'ddylet ti ddim fod wedi dod yma, a ddylai rhagor tebyg ichi ddim cael dod'...

Diddorol - dw i ddim yn cofio dweud hynny o gwbl, gan nad yw'n bolisi gan Cymuned (neu rywbeth dwi'n credu'n bersonol 'chwaith). Yn hytrach, roeddwn i'n ceisio gwneud y pwynt bod angen ail farchnad dai ar gyfer pobl leol er mwyn cadw ein cymunedau Cymraeg - roeddwn ni'n sefyll, wedi'r cyfan, ar stryd lle roedd y gwr bonheddig o Loegr ei hun yn cyfaddef nad oedd neb ond un yn byw yno trwy'r flwyddyn.

Gwybedyn said...

Nid dy ddyfynnu di oeddwn i, Aran, ond so^n am yr argraff ges i. Mater o olygu, efallai.

Teimlais y collwyd yn y rhaglen sawl cyfle i ddangos ochrau positif y dadleuon (nid jyst dy ddadleuon di a dadleuon Cymuned) - dadleuon nad ydynt yn hiliol nac yn wrth-Seisnig (nac yn erbyn unrhyw 'bobl o bant' o gwbl).

Roedd hurtrwydd sefyllfa'r boi 'na o Ogledd Lloegr yn amlwg, a chan fod cymaint o idiots fel'na o gwmpas y lle, mae'n anffodus ond yn wir fod rhaid dangos sut y gellir - a sut y dylid - delio'n gall gyda nhw. Un o'r agweddau pwysicaf ar y gwaith sydd i'w wneud yw denu mewnfudwyr draw at ochr yr iaith, ac mae hynny'n mynd i fod yn waith ofnadwy o anodd. Ni ddangoswyd (ac nid awgrymwyd) yn y rhaglen sut y gellid gwneud hynny - yn hytrach cawsom dipyn go lew o optimistiaeth disylwedd. Mae'n braf clywed rhethreg fel hyn, ond mae rhaid cael y sylwedd hefyd. Gobeitho y daw rhaglenni eraill yng Nghymru ac yn Lloegr i gyfrannu hynny.

Roedd y rhaglen yn dda iawn, ond un cam bach oedd hi, a hwnnw'n gam rhwystredig o fychan gan ystyried pwysicrwydd y testun dan sylw ac anwybodaeth y cyhoedd yn gyffredinol.

Aran said...

Erbyn hyn, dw i wedi cael clywed y rhaglen - ac mi gafodd y trafodaeth gyda'r gwr bonheddig ym Meddgelert ei olygu'n sylweddol iawn (nid yw ei gyfaddefiad bod neb yn byw yno trwy'r flwyddyn wedi cyrraedd y rhaglen, hyd yn oed). Digwydd bod i ni gael sgwrs eithaf diddorol gyda fo, ac yntau'n cytuno efo llawer iawn o bethau, ond daeth hynny ddim drosodd o gwbl.

Ar y cyfan, cefais fy siomi ar yr ochr orau gan y rhaglen - roedd agweddau'r cyflwynydd a'r cynhyrchydd yn sicr iawn wedi newid yn sylweddol yn ystod eu taith (er gwell!), a dw i'n credu iddyn nhw wneud gwaith eithaf da ar ran ceisio ffitio'r holl drafodaeth cymhleth i fewn i sesiwn hanner awr.

Mae'r cynhyrchydd yn teimlo bod yr ymateb i'r rhaglen wedi bod yn ddigon diddorol iddynt fedru dwyn perswad ar eu bosys i wneud mwy o raglenni tebyg, ac mae hi a'r cyflwynydd yn awyddus iawn i wneud hynny, chwarae teg iddyn nhw. Dw i'n dal i drafod rhai o'r pwyntiau gyda Mukul trwy ebost - mae'n amlwg bod ganddo ddiddordeb real iawn, ac yn cynhesu at y syniad bod iaith yn medru tynnu pobl at ei gilydd.

Dw i wedi awgrymu iddyn nhw fod modd gwerthu rhaglenni felly fel rhywbeth sydd o bwys ar gyfer sut mae Lloegr hefyd yn datblygu syniadau o gymunedau sy'n gynaladwy (yn ddiwylliannol ac yn amgylcheddol) ond hefyd yn groesawgar.

Cawn weld - rwyt ti'n hollol gywir, wrth gwrs, mai cam bach i'r cyfeiriad cywir ydy hyn, ond hei lwc daw pethau mwy ohoni...:-)