Monday, October 15, 2007

Cynnig Chrząszcz

Islaw nid oedd ond môr maith gwyn o gymylau’n donnau. Uwchben yr oedd yr haul, a hwnnw’n wyn fel y cymylau am nad yw byth y felyn wrth edrych arno o uchelfannau’r awyr.

’Roedd yn dal i hedfan y Spitfire. Roedd ei law dde ar y ffon, a gweithiai far y llyw gyda’i goes chwith yn unig. ’Roedd yn eithaf hawdd. Hedfanai’r peiriant yn dda, ac yntau’n deall ei waith.

Mae popeth yn iawn, meddyliai. ’Rwy’n gwneud yn iawn. ’Rwy’n gwneud yn dda. ’Rwy’n ’nabod fy ffordd adref. Bydda’ i yno mewn hanner awr. Pan lania’ i, mi wna’ i drolio i mewn, diffodd yr injan a dweud, helpwch fi i ddringo ma’s, wnewch chi. Mi wna’ i i’m llais swnio’n arferol a naturiol a chymeriff ’run o’n nhw ddim sylw. Wedyn mi ddweda’ i, helpa fi i ddringo ma’s, rywun. Fedra’ i ddim ar fy mhen fy hun, a minnau ’di colli un o’m coesau. Mi chwarddan nhw gan feddwl ’mod i’n smalio, ac mi ddyweda’ i, iawn, dewch i gael golwg, y bastards di-ffydd. Wedyn dringiff Yorky lan ar yr adain a chymryd golwg i mewn. Bydd e’n siwr o chwydu gyda’r holl waed a llanastr. Fe chwardda’ innau gan ddweud, er mwyn popeth, helpa fi ma’s.

Cymerodd gipolwg eto ar ei goes dde. ’Doedd dim llawer ohoni ar ôl. ’Roedd y siel wedi bwrw ei forddwyd, ychydig uwchben ei pen-glin, ac yn awr ’doedd dim yno ond llanastr a throchfa o waed. Ond ’doedd dim poen. Pan edrychai i lawr, teimlai fel petai’n gweld rhywbeth na pherthynai iddo. Nid oedd yn ymwneud ag ef. Nid oedd ond llanastr a ddigwyddai fod yno yn y caban; rhywbeth rhyfedd ac anarferol ac eithaf diddorol. ’Roedd megis dod o hyd i gath farw ar y soffa.

Teimlai’n hollol iawn, ac oherwydd y teimlai’n hollol iawn o hyd, teimlai’n llawn cyffro ac yn ddi-ofn.

2 comments:

asuka said...

wedi joio edrych ar dy fersiwn di ac un seoirse. mae sawl peth lle rwy'n meddwl "drueni na ddywedais i hynny!" ("deall ei waith", "wnaiff rhywun fy helpu", "bastads"). diolch - do'n i'm yn gwybod bod chwilod yn gallu sgrifennu cystal â hynny :)

rwy'n leicio'r frawddeg hon:
"Fedra' i ddim ar fy mhen fy hun, a minnau 'di colli un o'm coesau."
rwy' i am ddysgu sut mae defnyddio ymadroddion "a" fel'na! mae'r gystrawen yn amlwg, ond sa' i'n hollol sicr am ei semanteg. ga' i ofyn iti ydw i ar y trywydd iawn?

rwy' dan yr argraff gall dyn ddefnyddio ymadrodd "a" mewn brawddeg er mwyn mynegi naill ai cyd-ddigwyddiad (fel "wrth", "pan"…):
"A hithau'n dechrau nosi, daeth yr ungeinfed Lenz o hyd i gwm cul ymhlith y mynyddoedd."
neu ganlyniad (fel "o ganlyniad i'r ffaith", "ar sail", "oherwydd" hyd yn oed):
"Fedra' i ddim ar fy mhen fy hun, a minnau 'di colli un o'm coesau."

oes 'na bosibiliadau eraill o ran semanteg? oes bosib i ymadroddion o'r fath fynegi "er bod", er enghraifft?

gyda llaw, rwy'n dwlu ar dy "megis" di. 'sdim digon o "megis" yn 'mywyd i!

Gwybedyn said...

hei - (cyn mynd ati i drafod 'a') - beth am inni drio cyfieithu peth o'r ugeinfed Lenz!?!