Monday, February 16, 2009

Doniolwch...

Wrth imi wylio ar hen rifynnau o ‘The Vicar of Dibley’ ddoe, roeddwn i’n meddwl imi fy hun am ba mor anodd yw hi i ffeindio rhaglenni teledu da erbyn hyn, yn arbennig yn America. Yn fy marn i, mae TVoD yn hollol ddigri, ac mae Dawn French yn actores ryfeddol (a Chymraes yw hi, hefyd!).


Rhaid imi ddweud nad ydw i wedi chwerthin mor galed ers amser, ond efallai na fyddwch chi’n cytuno gyda fi am fy asesiad o’r rhaglen yma. Mae’n anodd iawn imi wybod a ydy rhywbeth yn ddoniol achos ei bod hi’n ddoniol mewn gwirionedd neu jyst achos ei bod hi o dramor. Rydw i’n ffeindio fy mod i’n ymateb gydag emosyniau wedi eu gorliwio yn amlach pan rydw i’n gwylio ffilmiau a rhaglenni sy’ ddim yn Saesneg, efallai achos fod yr iaith yn anodd i ddeall…er enghraifft, rydw i’n meddwl fod jociau Rwsieg yn ddoniol iawn, ond mewn gwirionedd, mae’n debyg eu bod nhw’n dwp ofnadwy. Ddylai hi ddim fod fel ’na gyda rhaglenni teledu prydeinig, chi’mod? Ond rydw i’n becso fy mod i’n chwerthin am rywbeth sydd yn ‘sappy’ iawn ym marn y mwyafrif o Brydeinwyr, jyst achos fy mod i’n cael fy hudo gan yr acenion. Wel, beth ydych chi’n meddwl?

2 comments:

Gwybedyn said...

Rwy'n gwybod beth sy 'da ti fan hyn. Rwy'n teimlo'n debyg pan fydda' i'n gwylio 'comedi' yn Bwyleg. A dweud y gwir, rwy mor falch 'mod i'n deall ystyr y geiriau nes mod i'n caniatau imi fu hun chwerthin am y jôciau lleiaf 'doniol'!

Ond dyma fy hoff jôc yn Gymraeg:

- Be' ti'n galw plismon yn Llanberis?
- Copa'r Wyddfa! :D

asuka said...

ti yn llygad dy le — anodd prosesu comedi mewn iaith estron neu drwy gyfieithiad, anodd gwybod am ben beth yn gymwys ti'n chwerthin.
wi'n cofio mynd i weld y ffilm branagh o measure for measure yn y sinema yn awstralia. roedd 'na ddigon o laffs gan y gynulleidfa, ond fel arfer byddai'r ymateb 'ma'n dod ar ôl y geiriau syml, brwnt. dim yn y lleoedd clyfar bendant.
rhyw fath o bathos oedd yr achos, rown i'n credu, effaith o adnabod gair brwnt y galliff dỳn ei ddeall ymysg yr iaith ffansi i gyd, oedd yn hollol annealladwy.