Efallai o achos fy mod i wedi bod yn darllen llawer o broffwydoliaethau a breuddwydion a gafodd eu ysgrifennu yn ystod yr Oesau Canol, mae fy mreuddwydion fy hunan wedi bod yn rhyfedd yr wythnos 'ma.  Rydw i wedi breuddwydio bod fy nannedd yn torri a phydru, arwydd sy'n arwyddio y bydd fy mherthnasau oedrannus yn marw yn fuan yn ôl Artimedorus. (Yeics!!!)  Wedyn breuddwydiais i fod trafferth gyda fi nes i flaidd mawr fy achub.  Wrth gwrs rydw i wedi bod yn ymchwilio cân am "Chwe brenin sy'n dilyn John" sy'n galw Owain Glyn Dŵr "y Blaidd Gorllewinol."  Mae'r breuddwydion hyn yn fy atgoffa o'r breuddwydion a freuddwydiais i pan oeddwn i'n ysgrifennu fy nhraethawd MA.  Yn y breuddwydion hyn roedd Wulfstan, Escob Efrog, yn fy nguro wrth ddweud wrthaf i fy mod i'n mynd i'r Uffern!  Roedd hynny'n rhyfedd iawn yn wir. 
Sigh.  Pryd mae'r gwyliau'n dechrau?
Thursday, May 01, 2008
Proffwydoliaethau a Gweledigaethau
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
 
 
1 comment:
Mae dy freuddwydion yn ryfedd iawn, Kasi :)
Post a Comment