mae RHYWUN yn graddio.
mae RHYWUN yn haeddu lly bob mymryn o wir longyfarchiadau a'r clodydd i gyd y galler eu pentyrru lan arni hi.
SO DA IAWN TIMOD-P-W-T!!!
heb os gwelir dy eisiau o gwmpas yr hen le (wel, gan y sawl sydd o gwmpas yr hen le i'w weld e), ond pob lwc iti a phob dynumiad da!
Monday, June 08, 2009
llongyfarchiadau!!!
Tuesday, June 02, 2009
wack
rhywbeth drawodd fi pwy ddiwrnod yw hyn, tra own i'n gorwedd yn y gwely yn pendroni pam wi'n lico ein gwely ni cymaint...
"mae 'na le ifi ymestyn ynddo fe," myntwn i.
ond dyma fi wedyn yn trio llunio brawddeg debyg yn gymraeg canol - a phryd 'ny y ces i 'nharo gyda'r fricsen gystrawennol 'ma, achos wi'n hanner credu y byddai modd sgrifennu hyn:
"y mae lle ym Y ymestyn yndaw ef"
Y! fan 'na? ...falle?
...rîli?
p'un ai fi ai cymraeg canol sy'n wack, tybed?
Sunday, March 08, 2009
Mae'r tymor yn mynd ymlaen. Rydw i'n mynd i California gyda Matthieu, Aled, a llawer iawn o bobl o'r adran -- dydw i ddim wedi ysgrifennu fy ysgrif eto, ond mae syniad da gyda fi am yr hyn a rydw i'n mynd i'w ddweud. Rydw i'n mynd i siarad am y baledi Albanaidd (yn Saesneg) sydd wedi mynd i Aeleg yr Alban. Mae'n ddiddorol iawn imi, ond dydw i ddim yn siwr fy mod i eisiau siarad amdanofe o flaen llawer o bobl. Wel, does dim dewis gyda fi nawr -- a rydw i'n siwr y bydd ef yn iawn. Byddaf i'n hapusach pan fyddaf i *yn* California.
Yn Somerville, mae penwythnos braf wedi dod a gadael. Ddoe, cerddais i i'r Cambridgeside Galleria gyda Matthieu -- roedden ni eisiau prynu peiriant DVD, ond doedd dim hyd yn oed un heb farth/"parth 0" (regionless?). Ond roedd ef yn neis iawn - cawson ni goffi mewn caffi, gwnaethon ni Sudoku yn y papur newydd, a roedd ef yn neis iawn bod i ffwrdd o fywyd Harvard.
Sunday, March 01, 2009
Pam fod eira'n wyn ...
Mae'n bwrw eira!!
Achos fy mod i'n dod o Virginia, dw i'n hoff iawn o eira. Pan roeddwn i'n ferch fach, byddai'r ysgol yn cau o achos fodfedd o eira -- byddwn i'n chwarae yn yr eira gyda'r cwn, ac yn yfed siocled poeth o flaen y tân. Mae'n rhyfedd imi o hyd pan mae'r cyrsiau a phopeth yn mynd ymlaen jyst fel arfer fan hyn.
Mae'n braf nawr, ond clywais i bod *troedfedd* o eira yn dod cyn yfory. Wow. Dw i ddim eisiau gwneud unrhyw beth pan mae'r tywydd fel hyn (well, mae'n debyg nad ydw i eisiau gwneud gwaith cartref mewn unrhyw dywydd, ond mae'n arbennig o anodd ar ddyddiau fel heddiw) -- dw i eisiau gwau ac yfed siocled a chysgu o dan orchudd trwm o flancedi.
Sunday, February 22, 2009
Dw i wedi blino. Dw i wedi blino ers pythefnos. Dw i ddim yn siwr pam – mae fy nghyrsiau’n wych, a dydy fy ngwaith ddim yn anodd iawn. Mae lot o waith ’da fi, ond dydy e ddim yn rhy anodd. Mae’n od.
Mae’r pen-wythnos wedi bod yn dawel. Ddoe, es i i dŷ Tina, a lliwion ni wlân. Roedd e'n wych. Ac – mae ci a chath gyda hi, a dw i’n hapus iawn pan mae anifeiliaid o gwmpas. Heddiw, roedd "cylch gwau" bach iawn gyda ni – doedd dim ond Jennie, mi, a fy ffrind Carla, sydd ddim wedi dod i’r cylch cyn heddiw. Roedd hynny yn ardderchog – byddwn i’n hapus petasai fy ffrindiau i gyd (o’r Adran Geltaidd, o pan roeddwn i’n fyfyrwraig israddedig, o fy nghorau ...) yn cwrdd â'u gilydd. Mae fy ffrindiau'n wych – ydy ef yn rhyfedd fy mod i eisiau i bawb (y rhai sydd yn "cool," ta beth) ddod yn ffrindiau gyda'u gilydd?
Ych, mae rhaid imi fynd yn ôl i’r gwaith arall. Mae prawf Ffrangeg ’da fi yfory -- a dw i eisiau mynd yn ôl i’r ganolfan hamdden yn y bore, hefyd. Os af i i gysgu’n gynnar ... Aled, sut wyt ti'n dweud "as if!" yn Gymraeg?
Monday, February 16, 2009
Doniolwch...
Wrth imi wylio ar hen rifynnau o ‘The Vicar of Dibley’ ddoe, roeddwn i’n meddwl imi fy hun am ba mor anodd yw hi i ffeindio rhaglenni teledu da erbyn hyn, yn arbennig yn America. Yn fy marn i, mae TVoD yn hollol ddigri, ac mae Dawn French yn actores ryfeddol (a Chymraes yw hi, hefyd!).
Rhaid imi ddweud nad ydw i wedi chwerthin mor galed ers amser, ond efallai na fyddwch chi’n cytuno gyda fi am fy asesiad o’r rhaglen yma. Mae’n anodd iawn imi wybod a ydy rhywbeth yn ddoniol achos ei bod hi’n ddoniol mewn gwirionedd neu jyst achos ei bod hi o dramor. Rydw i’n ffeindio fy mod i’n ymateb gydag emosyniau wedi eu gorliwio yn amlach pan rydw i’n gwylio ffilmiau a rhaglenni sy’ ddim yn Saesneg, efallai achos fod yr iaith yn anodd i ddeall…er enghraifft, rydw i’n meddwl fod jociau Rwsieg yn ddoniol iawn, ond mewn gwirionedd, mae’n debyg eu bod nhw’n dwp ofnadwy. Ddylai hi ddim fod fel ’na gyda rhaglenni teledu prydeinig, chi’mod? Ond rydw i’n becso fy mod i’n chwerthin am rywbeth sydd yn ‘sappy’ iawn ym marn y mwyafrif o Brydeinwyr, jyst achos fy mod i’n cael fy hudo gan yr acenion. Wel, beth ydych chi’n meddwl?
Hi, bawb!
Aled, mae flin 'da fi fy mod i mor hwyr - dw i wedi bod yn ysgrifennu adolygiad llyfr heddiw, ac roedd ef yn ddiflas. Rydw i'n ysgrifennu am lyfr Gaeleg yr Alban, a dydw i ddim yn ei leicio ef - mae darnau sydd ddim yn gywir o gwbwl, ond dw i'n nabod yr awdur, a dw i'n ei leicio ef. Bleagh. Gwleidyddiaeth.
Ddoe, roeddwn i mewn cynhadledd trwy'r dydd -- roedd cynhadledd llên gwerin gyda ni. Roedd hi'n dda -- roeddwn i'n nabod llawr iawn o bobl, ond doedd y darlithoedd ddim yn wych.
Rydw i MOR HAPUS bod gwyliau gyda ni yfory. Mae rhaid imi ysgrifennu adroddiad yn Ffrangeg am Lydaweg -- ac wedyn, mi wnaf i gyflwyniad, 10 munud neu rywbeth (yr wythnos nesaf, 'dw i'n credu? dydw i ddim yn siwr -- uh-oh!). Ond yfory, gobeithio bod Matthieu a fi'n mynd i'r amgueddfa wyddoniaeth. Os bydd fy ngwaith cartref wedi gorffen!
Tuesday, February 10, 2009
Y Gyfnewidfa Lên a rhai pobl rhyfedd
Am fod gen i gysylltiad o bell â materion llenyddol Cymraeg rwy'n derbyn ambell i gylchlythyr gan rai cyrff, a'r Gyfnewidfa Lên yn eu plith. Corff yw'r Gyfnewidfa (née 'Llenyddiaeth Cymru Tramor') sy'n hybu cyfieithiadau o waith Cymraeg. Gwaith da, felly, a chlodwiw - da yw codi proffeil y Gymraeg.
what on earth is this? i don't speak welsh.unsubscribe me.[...]
"Dear executive director, Please remove me from your mailing list. Incidentally I very much doubt that this ‘Welsh’ approach does anything to win supporters."Dyna'i dweud hi, felly, ym marn y Dr V., beth bynnag - os ydych chi am hybu'r Gymraeg, peidiwch da chwi â chymryd "Welsh approach" at y gwaith - mae'n bosibl felly y bydd pobl eraill yn gorfod dioddef ei gweld hi o bryd i'w gilydd! (Gobeithiwn nad yw'r Dr. V. sensitif, druan, yn gorfod gweld na chlywed gormod yn ei swydd fel darlithydd yn y coleg ger y lli).