hei bawb, ga' i ofyn ichi gwestiwn hurt?
ffordd rwyt ti'n gwybod ydy'r brifysgol 'di rhoid gradd iti? sa' i'n gwybod ydw i 'di ennill gradd "masters" neu beidio.
rwy'n hanner cofio llenwi ffurflen gais y llynedd, ond mae'n debyg ifi wneud cawlach ohoni am na chlywais i ddim rhagor yn ei gylch. (rwy 'di treio chwilio am f'enw i ar y we rhag ofn y bydd rhaglen o ryw seremoni rywle yna.)
Saturday, July 26, 2008
cwestiwn harfardaidd
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
6 comments:
Ha! O 'Suka. Rhaid i ti ofyn Margo, dwi'n meddwl. Bydd hi'n gwybod, siwr o fod!
diolch am y cyngor! syniad da - bydd hi'n siwr o wybod! falle y bydd 'na dystysgrif o gwmpas hyd yn oed - ar waelod caetsh caneri yr adran heb os.
^_^
On'd wyt ti wedi sylwi ar y newidiadau corfforol ac ysbrydol sy'n digwydd unwaith iti raddio o Harfard!? Theimlaist ti ddim goleuedigaeth fewnol o gwbl yn ystod y misoedd diwethaf? ^=^
naddo - felly, mae'n debyg na ches i raddio wedi'r cwbwl. dirwyon llyfrgell oedd ar fai siwr o fod...
oes rhyw sôn wedi bod?
ha-ha, oes! wi wedi ymuno'r clwb o'r doethion.
biti nad oes tystysgrif. byddai fy mam i 'di leicio gweld rhyw dystygrif, mae'n siwr. ^^
Post a Comment