prynais i grys rygbi cymru wythnos yn ôl i'w hala'n anrheg at fy nai dwy oed yn awstralia, ac rwy newydd glywed fod e'n dwlu arno. sa' i 'di gweld dim lluniau 'to - ond bydda' i'n fodlon eu hebostio nhw at bawb a ofynniff pan wna' i. rwy'n siwr y byddan nhw'n annwyl iawn.
roedd y crys 'ma bach yn fawr, mae'n ymddangos, sy ddim yn beth drwg - efallai y gwneiff e bara'r gaeaf. ac roedd gan ei chwaer hŷn (chwech oed) esboniad am hyn'na:
"that's because the welsh are very large people. not like the french, you know."
Tuesday, June 03, 2008
anrheg lwyddiannus
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
8 comments:
cynghanedd lusg lyfli.
(mae 'na gopi o "meddwl y cynghanedd" gan r.m. jones yn eistedd ar fy nesg yn aros ifi ei ddarlen e. yn fuan iawn, gobeithio y bydda' i'n gallu dy seicdreiddio di drwy sut bethau.) ^o^
A dyma 'wedodd y crwtyn bach -
Yn hwyl yr ŵyl mi weli - Wncwl 'Suk
yn cael swp o firi;
mae 'di dal byg y rygbi,
a rhoi crys mawr, mawr i mi.
:)
[sori am newid trefn y sylwadau, ond roedd yr Wncwl anghywir wedi llithro i mewn rywsu!]
fydd modiwl ar gynghanedd ar gael fel rhan o'r cwrs cymraeg i ddechreuwyr yn harvard flwyddyn nesa'?
hei - syniad gwych! elen i i wers fel'na yn sicr!
beth sy'n cynganeddu gyda 'chwilen', tybed?
Rwy'n chwil am 'mod i'n chwilen.
Syml ond gwir!
hefyd,
ti'n swil drwy bo ti'n chwilen!
a 'sen i moyn iddo fe neud rwbeth ifi...
gwnawn ymbil ar y chwilen
symyl cyng'neddu'r chwilen.
6_6
Post a Comment