Rydyn ni wedi cyrraedd (a mynd heibio i) farc y ddwy fil!!
Ers ychydig flog-rifau mae'r chwilen yn partia fel 'se hi'n 1999!
:)
Chwibanwch, dawnsiwch, neidiwch, cenwch,
Blooooggiiwwch!
Ac Asuka - gobeithio y cei di o leiaf ddwy fil yn ôl gan y llywodraeth!!!
Monday, April 14, 2008
Y Mileniwm... eto!
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
14 comments:
sbambotiaid i gyd siwr iawn.
hei - mae'r teitl japanraeg 'di diflannu. pharhaodd hynny ddim am hir! :)
Fydd y bobl eraill ddim yn dallt be o'n i'n sôn amdano yn fy mlog rwan!
triw iawn - beth os adfera' i'r catacana fel is-deitl am y tro...?
'na fe. dylai pawb fod yn fodlon nawr.
waw - mae hynny'n edrych yn wych!
Mae hynny'n wirioneddol wych. Ffordd arbennig o dda i ddathlu'r mileniwm!
Ys gwn i a gelen ni'n towlu bant o'r blogiadur am wneud hynny, 'sen ni arno o hyd! ;)
'Na gampus! Ella dylwn i ychwanegu Japaneg ar deitl fy mlog hefyd (tasech chi ddim yn meindio.)
ddim o gwbwl, emma - falle taw dyma fydd y ffasiwn newydd ymhlith blogiau cymraeg! :)
hei, pwy a wyddai sut mae rhoi trefn ar y "header" fel 'na? persephonia?
ie, persephonia'n wir. Tipyn o 'html' ydy peth da. :)
Hei - mae'r Siapaneeg wedi mynd yn wyllt 'ma!!! Mae'r bonsai wedi tyfu'n dderwen braff.
Mae holl iaith y blog wedi mynd yn arwyddion grŵfi dwyreiniol!
Gobeithio nad yw'r geiriau hyn yn rhai cas! :)
diolch, persephonia!
diddorol - mae 'na lawer mwy ar y blog yn japaneg heddi nag oedd 'na yn wyddeleg ddoe!
Mae hyn yn ddiddorol!
sa' i'n gwybod pwy newidiodd y blog i gyd, ond newidia' i mohono fe 'nôl - rwy'n rhyw leicio bod "asukaさん" yn y sylwadau :D
Post a Comment