Tuesday, April 29, 2008

Prince a Radiohead

Rhaid i fi ddweud, dwi'n dwlu ar Radiohead a dwi'n mwynhau gwrando ar ddehongliadau newydd o'u caneuon. Ond dyma rhywbeth od: penwythnos diwethaf, roedd Prince yn chwarae yn sioe Coachello yn Indio, California. Fe benderfynnodd e chwarae fersiwn o gân Radiohead, "Creep," ond newidodd y gân adlwyrchol a digalon i mewn anthem "feel good." Mae'n rhyfedd iawn. Dwi ddim yn siwr sut dwi'n teimlo am hyn eto.

Dyma Prince:


A dyma Radiohead:

Beth dych chi'n meddwl?

4 comments:

asuka said...

diolch persephonia - 'sdim byd yn bod ar damaid o prince! ond ydy'r fersiwn 'ma'n wahanol iawn i'r gwreiddiol?

asuka said...

rwy'n treio clywed y gwahaniaeth. beth mae pobl eraill yn feddwl?

Gwybedyn said...

Mae'r cwmni recordiau wedi tynnu'r fideos bron i gyd, am a wela' i.

Ces i'r cyfle i wrando ar un recordiad a wnaethpwyd gan rywun mewn cyngerdd gyda'i ffôn symudol, rwy'n credu - doeddwn i ddim yn gallu clywed llawer, rhaid cyfaddef.

Ond rwy'n leicio'r Radiohead.

Malone said...

Ych! Nodweddiadol. Roedd fideo cyngerdd Prince yn wych, ond fersiwn y gân yn gwahanol iawn. O wel.

Dyna Radiohead, beth bynnag.