Friday, April 11, 2008

paprika


ydych chi'n 'nghofio i'n sgrifennu ar millennium actress yn ddiweddar, y ffilm gan kon satoshi a wnaeth imi benderfynu gweld popeth arall gan yr un cyfarwyddyd? wythnos diwethaf cefais gyfle i weld un o'r ffilmiau eraill 'na, paprika (2006), oedd hithau'n ddiddorol dros ben.
fel cymaint o'r ffilmiau rwy'n hoff ohonynt, mae hon yn trin diwedd y byd. ond nid mewn termau technolegol, ôl-ddynol y tro hwn: dyma ddiwedd-y-byd dynol iawn fel sy'n digwydd mewn lledrithiau seicotig. yn y stori, datblygir peiriant sy'n gadael i'r cymeriadau fynd i mewn i freuddwydion ei gilydd, gan eu rhannu a'u rheoli nhw, ond ymddengys bod rhywun yn rheoli eu bywyd dychmygol nhw heb ganiatâd, gan newid eu profiad o realiti a'r breuddwydfyd a cheisio cael gwared â'r ffiniau i gyd... mae'r ffilm yn chwarae â'r gadwyn drosiadol ffilm-breuddwyd-rhyngrwyd ac mae gan un o'r cymeriadau "avatar" yn y rhithfyd o'u breuddwydion, paprika, sy'n sylweddoli rhannau anymwybodol o'i phersonoliaeth ac sydd â phwerau hudol gêm fideo.
rwy'n leicio gwylio ffilmiau anime lle nad y lluniau yw'r peth diddorol, a rhaid cyfaddef bod paprika yn llwyddo er gwaetha' rhai o'i syniadau gweledol - os wyt ti'n mynd i wneud ffilm am freuddwydion a hunllefau, nid clowns a syrcasau mo'r delweddau mwyaf gwreiddiol, nage? - ond mae ei rhythm yn wych, y ffordd mae'r ffilm yn symud rhwng realitis ac yn codi at ei huchafbwynt. ac mae 'na olygfeydd hynod o effeithiol mewn lleoedd pwysig ar y ffordd, fel yr un lle tyf paprika o fabi yn fenyw aeddfed ymhen eiliadau drwy lyncu tywyllwch diwedd y byd. waw.
(un olygfa wnaeth i mi wenu: paprika yn hedfan ar gwmwl ar rith cymeriad o'r gyfres deledu wych monkey (西遊記), y treuliais i gymaint o oriau 'mhlentyndod yn ei gwylio :) oes rhywun arall yma yn ei nabod hi?)

20 comments:

Gwybedyn said...

Diolch iti, 'Suk, am adolygiad arall sy'n tynnu'r dŵr o ddannedd y chwant sinematograffyddol sydd ynof.

Gwybedyn said...

Rwy'n sylwi fod 'Paprika' ar gael yn y llyfrgell. Beth am gael noson ohoni, flogwyr!?

Gwybedyn said...

wrth sôn am Monkey...

Dyma lle mae Monkey yn cwrdd â Pigsy!


!!! ffantastig !!!

asuka said...

ewww. dechrau perthynas hyfryd :) anghofiais i fod ti'n nabod y rhaglen yn dda, szczeb - sori! p'un oedd dy hoff gymeriad di?
(wedi meddwl drosto, rwy'n credu nad at y rhaglen deledu mae'r cyfeiriad yn "paprika", ond at olwg y cymeriad mewn celf yn fwy cyffredinol.)

Gwybedyn said...

Ai fi yw'r unig un y mae Harvard Cymraeg wedi troi yn ハーバードカムライグ ar ei gyfer?

Emma Reese said...

Szczeb, wyt ti'n medru Japaneg?

Gwybedyn said...

Erioed wedi dysgu gair, Emma, er fod gen i grys-T sy'n dweud "Wales" yn Siapaneeg (prynais y peth am iddo ddweud yng nghatalog 'Cowbois' taw "Cymru" oedd y gair - roedd yn dipyn o siom imi ddysgu taw trawsgrifiad o'r gair Saesneg oedden nhw wedi'i ddefnyddio).

Ai Siapaneeg yw'r iaith sydd bellach yn rhan o'r wefan hon?

Emma Reese said...

Dôn i erioed wedi gweld y wefan hon o'r blaen. ウェールズ(Wales) ydy'r gair maen nhw'n defnyddio i olygu Cymru bob tro yn Japan, tasen nhw'n ddefnyddio o gwbl.

Gyda llaw, roedd na hen anime o'r teitl カムリ(Cymru) amser maith yn ôl pan ô'n i'n blentyn, ond doedd o ddim i'w neud â'r wlad o gwbl.

Gwybedyn said...

Ie, rwy'n credu taw "ウェールズ" sydd ar fy nghrys. Tasai Cowbois wedi dweud taw 'Wales' yw'r gair, byddwn i wedi arbed fy arian! (Eto, mae cael "ウェールズ" ar dy frest yn well na 'Nike' neu 'Adidas', sbo, er ei fod yn deillio o'r iaith anghywir!)

Rwy'n edmygu'r Ffiniaid yna sydd yn sôn am y 'Kymriläinen' (Cymry) heb feddwl dwywaith amdani (er bod llawer yn dweud 'Walesiläinen' hefyd, mae'n wir).

Beth oedd yr anime カムリ, felly? Oedd rheswm dros ddewis yr enw?

asuka said...

ond gŵglio カムライグ a gwelwch chi nad y ni yw'r cyntaf i'w ddefnyddio fe, serch mor brin yw :)
'mond chwarae o gwmpas rown i, ac yn sydyn methodd 'nghysylltiad rhyngrwyd i ac down i'm yn gallu adfer teitl y blog!

Emma Reese said...

Bobl fach! Dw i newydd google. Dôn i ddim yn gwybod bod na Gymdeithas Cymru mewn prifysgol yn Nagoya, Japan! Mi gaeth hi ei sefydlu 3 blynedd yn ôl. Mae 'na bob math o wybodaith am y wlad. Dw i'n gwybod am Gymdeithas Dewi Sant ond mae'r gymdeithas newydd ma'n swnio'n anhygoel. Dw i ddim isio ymuno â hi serch hynny achos bydd hi'n costio $50 bob blwyddyn.

szczeb, "Kamuri" oedd enw'r Ninjya cwˆl yn yr anime na. :)

Emma Reese said...

Sgen i ddim syniad pam dewison nhw'r enw.

asuka said...

waw, 'na ddiddorol! ydy'r gymdeithas yn gweud pa fath o weithgareddau, cyrsiau ac ati maen nhw'n eu cynnig, emma?

Gwybedyn said...

Asuka! - ble mae'r Siapaneeg wedi mynd? Mae'r blog yn edrych braidd yn boring hebddi!

asuka said...

wel, cyhyd â nad yw'r catacana yn *hollol* rong fe'i cei yn ôl, cariad. :)

asuka said...

mae angen ychydig rhagor o liw hefyd o gwmpas y wefan 'ma, falle?

Emma Reese said...

Chewch chi mo'r manylion heb ymuno'r gymdeithas ($50.)

Ond Asuka, fydd neb yn dallt yr enw Japaneg heblaw fi!

asuka said...

hmm... os nad ŷn nhw'n rhoi gwybod am y gymdeithas oni bai fod ti'n aelod, sut mae gwybod ydy hi'n werth ymaelodi â hi tybed? amheus!

fydd neb yn deallt heblaw ti? sa' i'n siwr oes unrhywun yn darllen y blog heblaw ti a ni! :)

Emma Reese said...

Beth am Flogiadur? Pam na fydd dy flog yn dangos yno?

asuka said...

wel, mi ro'n ni ar y blogiadur yn fuan iawn ar ôl dechrau'r blog 'ma, a gweud y gwir.
ond ar ôl trafod y peth penderfynais i, persephonia a szczeb ofyn am gael ein dileu oddi arno - lle i ddysgwyr yw hwn a fyddai pawb yn ein plith ddim yn leicio'r syniad bod ei wallau i gyd yn cael eu darlledu i'r blogosffêr o'i anfodd. mae nifer dda o'n cymuned ni'n cyfrannu erbyn hyn, a dyna sy'n bwysig am y tro.

ac os prin yw ein hymwelwyr ni, rŷn ni cymaint â hynny'n hapusach wrth eu gweld nhw!