Thursday, April 10, 2008

Natur Cymru

Os nad wyt ti eto wedi bod yn gwylio rhaglen Natur Cymru gyda Iolo Williams yna cer draw i wefan S4C!

Nid yn unig bod y rhaglen yn hardd dros ben ond hefyd mae'r iaith yn goeth a gwych. Ddysgi dy byth fwy o enwau adar, pysgod ac anifeiliaid mewn awr. (Dysgi di dipyn yn rhagor na'i henwau, hefyd!)

(ac mae is-deitlau os oes angen - dim ond dilyn y cyfarwyddiadau).

2 comments:

Emma Reese said...

Do. Dw i wedi gweld hi. Mae'r gwaith camera'n ardderchog. Mi gewch chi weld cymaint o'r wlad heb deithio. Ac mae'n haws dallt Iolo na'r bobl eraill. Mae o'n siarad yn araf ac yn glir (efo acen hyfryd.)

asuka said...

diolch am y tip, emma a szczeb. am lun pert!