Monday, April 28, 2008

llun codi calon


annwyl bawb, rŷn ni i gyd fel 'sen ni'n streso mas yn sydyn bach. dyma inni felly lun lyfli - y llun pertaf own i'n gallu ei ffeindio - i godi ein calonnau ac i'n hatgoffa ni fod 'na bethau pwysicach yn y byd 'ma na pha beth bynnag a fo'n peri poen inni ar y foment... sef creaduriaid fflwffog yn hela madarch a chnau yn y goedwig!
mae mwg 'da ni yn y tŷ a'r un llun arno, a 'sdim mwg gwell ar gyfer codi gwên wrth yfed te ohono ben bore.

6 comments:

Emma Reese said...

Annwyl iawn! Mi fasa hi'n wych tasa Totoro'n siarad Cymraeg.

Gwybedyn said...

wi isie myg fyl'na!

a hefyd wi isie mynd i'r côd i hela shrwmps.... ond by' raid dishgwl tan yr hydre!

asuka said...

byddai'n wych - dylet ti droi'r ffilm yn gymraeg, emma, ar gyfer plant cymraeg eu hiaith. beth am ddechrau drwy drosleisio clip byr a'i roi e ar youtube?!

Rhys Wynne said...

Gallwch roi is-deitlau ar ffilmiau drwy ddefnyddio gwefan dotSUB.com.

Gall pobl ei gyfieithu ar y cyd - prosiect (anferth) i'r dosbarth a pobl eraill tros y we?

Dim ond yn ddiweddar dwi wedi dod ar draws ffilmiau Miyazaki, mae nhw'n wych. Gwyliais Porco Rosso a Howl's Moving Castle ar y penwythnos.

Spirited Away yw fy ffefryn, ac yna Laputa

asuka said...

szczeb, os wyt ti wir moyn mwg fel'na, mewn siop yn y "porter exchange" y prynais i ein hun ni yn porter square - siop fach ar y daearlawr oedd yn gwerthu papur ac anrhegion o japan, siop neis iawn. (sa' i'n gwybod ydy hi'n dal yna.)

asuka said...

waw, rhys, diolch iti am y wybodaeth. bydd rhaid ifi fynd i edrych ar dotSUB.com. doedd dim clem 'da fi bod 'na declyn fel'na ar gael, ond *fe* fyddai'n brosiect gwych (ac anferth) yn wir!

mae miyazaki *yn* dda, ond rhaid cyfadde' y byddwn i'n rhoi'r ffilmiau mewn trefn wahanol i ti!:
1) "totoro" a "nausicäa"
2) "kiki"
wedyn "spirited away"
ac wedyn y lleill... ond rwy'n cytuno fod 'na bethau gwych yn "laputa" - fel y ffaith bod pazu fel 'sai fe'n gweithio mewn petre yn ne cymru! ac mae golygfa deitlau'r ffilm yn arbennig o effeithiol hefyd. yn dyw hi'n wych ffordd mae arddull y gelfyddyd yn newid yn llwyr, gyda'r holl "cross-hatching" ac ati? (mae rhywbeth tebyg yn digwydd yn "nausicäa" yn y golygfeydd o blentyndod y prif gymeriad.)

hei, os wyt ti'n leicio miyazaki, wyt ti 'di gweld y ffilmiau gan gyfarwyddwyr eraill o'i stiwdio e? maen nhw i gyd yn werth eu gwylio, ac rwy'n hoff iawn o rai ("grave of the fireflies", "whisper of the heart"...).

cymint o ffefrynnau! pa un i ddechrau gyda fe? rhaid cael cip ar y dotSUB 'ma gyntaf...