Sunday, April 06, 2008

Damweiniau ac un cwestiwn bach

Fel Becky a Sarah, rydw i'n meddwl hefyd bod y gwyliau yn rhy fyr. Er hynny roedd fy ngwyliau yn estynedig achos bod fy ffrind Julian yn aros gyda fi trwy'r wythnos. Roedd ei ymweldiad yn hyfryd iawn, ond mae rhaid imi ddal yr wythnos 'ma. Mae llawer o waith gyda fi: mae y gwaith arferol, ond cyflwynaf i gyflwyniad am llenyddiaeth yr Almaen yn yr Oesau Canol. Mae'r ymchwil wedi bod yn ddiddorol, felly nad oes ots gyda fi. Yn anfoddus, mae gwaith wedi bod yn galed ers imi gwympo yn fy nghawod ddydd Gwener. Rydw i wedi brifo fy ysgwydd a fy nghoes. Mae fy holl gorff yn rhoi dolur yn wir. A wel, 'sdim problem rhy fawr, mae'n debyg.

Cyn imi anghofio, mae cwestiwn am rygbi ym Moston gyda fi. Mae fy ffrind Jesse newydd symud i Foston o Sydney, ac mae hi eisiau gwybod lle gall hi wylio rygbi ar y teledu. Dywedais wrthi hi y byddwn i'n holi amdano. Oes syniadau gyda chi?

4 comments:

Gwybedyn said...

Mae sawl bar lle y gellir gwylio rygbi yn Boston (a Cambridge). Rydw i wedi bod yn ddiweddar i dafarn Lir (Boylston St), tafarn McGanns a hefyd tafarn y Phoenix Landing (Central Square) ac wedi bod ymhlith Gwyddelod, Saeson a Chymry yn gwylio gemau rygbi. Mae'n bosibl tsiecio ymlaen llaw i ddod i wybod a fyddan nhw'n dangos y gemau ond fel arfer mae sianel 'Setanta' 'mlaen gyda nhw (yn aml iawn bydd rygbi ar un sgrîn a phêl-droed ar sgrîn arall).

asuka said...

mae'n flin 'da fi clywed am dy ddamwain di. poenus :(

Malone said...

dyna drueni, Kasi! brysia wella.

Becky said...

Mae'n ddrwg gen i dy fod di wedi cwympo! Teimlia yn well!