Thursday, March 13, 2008

Turandot

Es i weld opera Turandot ddoe. Dw i'n leicio cerddoriaeth opera, ac rwy'n leicio stori Turandot yn fawr. Mae ffrind yn chwarae'r ffidil yn y gerddorfa. Cafodd yr opera ei pharatoi gan fyfyrwyr a myfyrwragedd Harvard. Meddyliais y byddai'n amhroffesiynol, ond roedd hi'n wirioneddol dda! Doeddwn i ddim eisiau mynd i'w gweld achos nad oes amser gyda fi. Ond nawr, dw i'n meddwl taw syniad da oedd ef.

4 comments:

asuka said...

gwych clywed ychydig o newyddion o gaer-grawnt, mass.
swnio'n uchelgeisiol iawn o gynhyrchiad myfyrwyr! ife llwyfannu'r opera lawn wnaethon nhw (â setiau ac ati), neu ei chyflwyno ar ffurf cyngerdd?

Becky said...

Rydw i'n caru Puccini. Yn arbennig, rydw i'n leicio "Gianni Schicchi." Ond, nad oes amser da fi i weld "Turandot," yn anffodus.

Edyta said...

Gwnaethon nhw opera iawn a roedd hi'n broffesiynol iawn. Roedden canwyr arwainol (?) o gwmni opera proffesiynol, ond roedd y gweddill (cerddorfa a chanwyr) myfyrwyr Harvard. Oedd hi'n drawiadol iawn!

asuka said...

diolch am egluro, edyta. drueni nad own i yna - mae'n swnio'n wych a buaswn i'n sicr o nabod rhywun yn yr ensemble 'fyd.