Dw i wedi dod o hyd i'r clip 'ma o Armstrong a Miller ar y safle Language Log. Hmm . . . mae posibiliadau dymchweliadol yna, on'd oes? (ar gael yn Saesneg yn unig - yn fwy neu lai - yn anffodus!)
Monday, March 03, 2008
Tipyn o hwyl ieithyddol
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
4 comments:
:)
so dyna sut mae'n gweithio!
ond sa' i'n credu bod 'na egwyddorion o gwbwl tu ôl i'r awgrymiadau bydd fy ffôn i'n eu cynnig fel arfer!
Beth sy'n bod ar 'felly'?
So i'n leicio "so"! Mae'r Gwyddelod yn gwneud yr un peth hefyd (disodli geiriau da gyda geiriau Saesneg). O leiaf, sbo, mae'r Cymry'n ynganu'r gair mewn ffordd Gymraeg, ond eto...
Ac eto, mae 'na ryw rinwedd i ymadroddion megis "So felly,..." on'd oes, er eu bod nhw'n dipyn o fudge, a dweud y gwir plaen ieithyddol!
'sdim byd yn bod ar "felly"! ond beth yw hwn'na? mae 'na rywbeth... od... jest o flaen yr "f" yna. ie, 'na fe - bron rhy fach i weld. baw pryfed, falle?
:)
wps - rhaid ymddiheuro. down i'm yn gweld y dyfynnod ar ôl y gair "felly", ac felly meddyliais i fod y chwilen 'di dechrau sillafu'r gair â chollnod o'i flaen e! (cŵl ond dros ben llestri!)
Post a Comment