Friday, March 07, 2008

Pob lwc i chi!

Gobeithio bod pawb yn mwynhau LA! Pob lwc i chi! Rydw i'n siwr y bydd eich cyflwyniadau yn wych. Gwelais ar weather.com bod y tywydd yn hyfryd iawn yna--72° ac yn heulog! Rydw i'n genfigennus. Dydy'r tywydd ddim yn dda ym Moston. Er ei bod hi'n hyfryd ddoe, mae hi'n bwrw glaw erbyn hyn a bydd hi'n bwrw glaw drwy'r penwythnos.

Fydd fy mhenwythnos ddim yn rhy brysur. Wel, fydd hi'n ddim mor brysur â'r penwythnos diwethaf! Fel arfer rydw i'n darllen llawer o gerddi Cymraeg Canol. Sut bynnag mae ychydig o amser gyda fi i chwarae. Nos yfory byddaf i'n mynd i gyngerdd yn Brookline. Los Amigos Invisible yw'r band. Mae'n band Funk sy'n dod o Venezuela. Dylai fod yn ddiddorol!

7 comments:

asuka said...

joia'r gyngerdd - rho inni wybod sut roedd hi!

asuka said...

heia kasi,
rwy'n llawn edmygedd wrth weld y safon rwy ti a gweddill y criw 'di ei gyrraedd yn eich cymraeg yn barod. wir yn waw.
ti'n bwriadu gwneud cwrs iaith yng nghymru dros yr haf neu rywbeth?

Malone said...

Dwi'n genfigennus hefyd. Dwi'n genfigennus o'r bobl sy wedi teithio i LA, a dwi'n genfigennus o'r bobl sy'n mynd allan i cyngerdd funk heno. ;)

O, a dwi'n genfigennus o bobl sy'n astudio Cymraeg ym Mangor ar hyn o bryd yn arbennig!!! :D

asuka said...

waw - pawb mor genfigennus! ga' i chwarae hefyd? rwy'n cenfigennu wrth kasi am bod hi'n mynd i gyngerdd ffync heno (ac am bod hi'n medru cymraeg mor dda mor ifanc!). ac rwy'n cenfigennu wrth persephonia am fod ganddi ferch fach, am bod hi bron wedi bennu yn y brifysgol ac am bod hi mor cŵl :D

Becky said...

Sut oedd y cerddoriaeth ar y cyngerdd?

asuka said...

ie, kasi. rŷn ni i gyd am wybod.

Edyta said...

Diolch yn fawr.