Tuesday, March 04, 2008

I ffwrdd â fi!

Wel, dyna ni. Yfory af i i Galifornia, i Los Angeles, ‘gwlad y sêr.’ Wel, ‘gwlad enwogrwydd,’ dw i’n meddwl. Cyffrous iawn! Rhaid imi bacio, ond dw i wedi anghofio sut mae 70 gradd Fahrenheit yn teimlo. Ydy hi’n boeth? Neu'n oer? Neu'n ddim ond claear? Nid oes ond cês bach ’da fi, felly rhaid imi bacio'n ‘smart.’

Dymunwn fod pwll nofio ’da’r gwesty. Yn anffodus, dw i ddim yn meddwl fod. Dw i’n aros mewn gwesty ar stryd Diverton yn Westwood. Dyfala beth? Ces i fy magu yn Rhode Island, yn Niverton! Dw i’n siwr taw ffawd sy'n gyfrifol.

Aled ac Edyta (a Matthieu a Maggie): Galwch fi pan gyrhaeddwch Los Angeles! Gallwn ni gael cinio, neu rywbeth.

Nawr, rhaid dychwelyd at fy ngwaith cartref ar gyfer yr wythnos nesaf.

5 comments:

asuka said...

waw - los angeles! gobeithio cei di (a phawb arall sy'n mynd) amser gwych! rwy'n sicr gwnei di.

asuka said...

mae'ddi mor oer fan hyn bore 'ma fel bo' fi'n rhyw freuddwydio am fod yn l.a. gyda chi!

Gwybedyn said...

Bob tro yr wy'n paratoi ar gyfer taith i Califfornia mae llu o ganeuon grêt o'r saithdegau yn cael eu dwyn i'r cof. Yn bennaf, wrth gwrs Led Zeppelin, 'Mynd i Galiffornia':

"Dydd ar ôl dydd gyda merch mor gas,
Pob dim yn fwg neu'n botel wag
Rhaid dechrau o'r newydd
Mynd i Galiffornia a'm calon yn friw
Rhyw sôn gan rywun fod yno ferch
A chariad yn ei llygaid a blodau yn ei gwallt
...
Y môr yn goch a'r awyr yn llwyd
Yn meddwl sut yn y byd y medrai yfory ddilyn heddiw."

Cân wych, os bu un erioed.

Reit. Bant â'r chwilen i dwll bach twym mewn rhyw goeden am y penwythnos.

Gwybedyn said...

(am gyfieithiad sâl!!!!)

:)

Becky said...

Gobeithio cei di amser dda iawn!! Rydw i'n genfigennus! Rydw i'n colli yr haul.