Monday, March 17, 2008

Geiriaduron annwyl


O achos fy mod i'n colli fy nghopi innau!

P'un yw'ch hoff eiriadur chi?

(un sy'n hoff iawn gen i, rhaid cyfaddef, ar ôl y Salesbury a'r Pugh, yw fy nghopi o 'Oxford Latin Dictionary', ond 'swn i'n cael fy alltudio i ynys fechan ym Mae Ceredigion 'swn i'n dewis mynd â Termau Amaethyddiaeth!)

15 comments:

asuka said...

pwy ychwanegodd y cofianiadur cymreig at y rhestr o ddolenni? mae'n edrych fel hwyl.

Emma Reese said...

Pocket Modern Welsh Dictionary gan G. King
Mae gynno fo gymaint o enghraifftiau defnyddiol er bod 'na ddim digon o eiriau ar y cyfan.

asuka said...

rwyt ti yn llygad dy le ynghylch "pocket modern welsh dictionary" gareth king, emma reese - mae e *yn* wych.
tybed wyt ti'n gyfarwydd â "geiriadur gomer i'r ifanc" gan d. geraint lewis? mae hwnnw'n ffantastig hefyd. llai o wybodaeth ramadegol nag sydd yng ngeiriadur king (wrth gwrs) ond llawer mwy o eiriau, ac rwy'n ei gael e'n hollol ddibynadwy - delfrydol fel ail eiriadur i ddysgwyr yn nhŷb i. wyt ti'n ei ddefnyddio fe o gwbl?

Gwybedyn said...

s'mo i wedi edrych yn agos iawn ar eiriadur yr hen Frenin ar ôl cael fy llosgi gan ei lyfrau eraill. Rwy'n falch o weld bod modd cael budd allan ohono - yr enghreifftiau ac nid yr orgraff, mae'n siwr!

Ond mi rydw i mewn cariad pur â _Geiriadur Gomer i'r Ifanc_ - yr _unig_ eiriadur Cymraeg-Cymraeg sy'n rhoi diffiniadau yn lle gweithio fel lled-thesawrws. Gwych o lyfr.

Rhaid dweud 'mod i'n eithaf leicio geiriadur Heini Gruffudd hefyd.

Gwybedyn said...

Be' di 'cofianiadur'?

asuka said...

dylet ti edrych eto ar eiriadur mr king. fel sy 'di cael ei weud, mae e'n llawn enghreifftiau a gwybodaeth berthnasol fel bod dysgwyr yn gallu *defnyddio*'r geiriau maen nhw'n ffeindio ynddo.
("cofiantiadur" rown i'n bwriadu ei deipio, sef y "Bywgraffiadur Cymreig" diddorol sy 'di ymddangos ymhlith y dolenni. ond 'sdim o "gofiantiadur" yng ngeiriadur gazza.)

Gwybedyn said...

Beth mae Gareth King yn ei wneud pan nad yw'n sgwennu llyfrau iaith rhyfedd a geiriaduron da, tybed? Neidio o gwmpas ar un goes gan ystyried ymha ffyrdd eraill y medrai fe ddrysu pryfed bach fel fi, siwr o fod.

hei - sgwennais at y wasg i holi a oedden nhw'n bwriadu ypde^tio _Colloquial Welsh_ o gwbl (er 1996 mae'r adargraffiadau i gyd yn sôn am ba mor wych mae hi fod "Pobl y Cwm" yn cael ei hailddarlledu am amser cinio, er bod Cymru'n dioddef diffyg hyder ar ôl colli pleidlais Datganoli '79!). Meddan nhw 'ydan', er na wedon nhw a oes bwriad cysoni'r orgraff a rhoi ychydig o barch i Gymraeg Da!

Casbeth mwyaf yn _Colloquial Welsh_ efallai: 'you should never speak like this. And for that matter, don't write this way either' neu rywbeth o'r fath, wrth iddo drafod "Literary Welsh". Pylii^^s.

asuka said...

dere 'mlaen, chwilen, so fe cynddrwg â hynny! o lyfrau gareth king dechreuais i ddysgu nghymraeg, ac rwy 'di llwyddo i feistroli'r gwahaniaeth rhwng "nac" a "nag" os taw dyna'r math o beth sy 'da ti mewn golwg.
wrth gwrs fod e'n gweud pethau rhyfedd iawn am "literary welsh", ac *mae* 'na ddysgwyr anwybodus sy'n dysgu gwers anffodus iawn oddi wrth hyn'na, sef bod cyweiriau'r gymraeg sy ddim o'r mwyaf anffurfiol yn hollol hynafol ac yn wastraff eu hamser (galla' i gyfeirio at enghreifftiau ar y rhyngrwyd), ond sa i'n credu taw dyna oedd bwriad y boi.
edrych di ar y geiriadur!

Emma Reese said...

Dw i wedi clywed am "Geiriadur i'r Ifanc." Mae o'n swnio'n dda yn ôl dy ddisgrifiad.

Gwybedyn said...

falle'n wir. Mae gen i ddigon o barch at y geiriadur, a bod yn onest (marchnad fach yw hi, wedi'r cyfan!) ac wedi cael fy nal yn y gorffennol hyd yn oed yn awgrymu bod dysgwyr yn prynu'r ddau lyfr er mwyn dod i nabod yr iaith! :)

Eto, dylid bod yn groch ac yn glir am ffaeleddau'r llyfrau hyn - nid pawb sydd â'r amser a'r amynedd (na'r hynodrwydd gwych) i fedru ddarllen Peter Wyn Thomas yn ei wely!

Diafol yw'r Brenin, yn ystyr ddeublyg ddeublygiol y gair! Ac mae'n syniad da dod i nabod y diafol yn dda!

asuka said...

emma reese, os cei di gyfle, dylet ti edrych dros gopi o "eiriadur gomer" yn wir. mae llawer ohonon ni sy'n dwlu arno fe, a byddai genny' ddiddordeb mawr mewn clywed dy farn di.
rwy'n gwybod gall y llyfr fod yn anodd ei archebu o'r unol daleithiau (ife dyna brofiad pobl eraill hefyd?). ond 'set ti eisiau copi, gallwn i brynu un yma yng nghymru a'i hala atat ti wrth gwrs.
hei, oes 'na adnoddau ereill rwyt ti'n arbennig o hoff ohonyn nhw ar wahân i eiriadur gwych gareth king?
ailblentyn@yahoo.com

Emma Reese said...

Diolch i ti Asuka am dy neges. Dw i'n archebu llyfrau Cymraeg gan "Gwales.com" fel arfer. Mae'r gwasanaeth yn dda iawn er bod tal post yn costio cymaint â'r llyfrau. (Dim arnyn nhw mae'r bai, wrth gwrs.)

Mae gen i Mordern Welsh, Basic Welsh, Intermediate Welsh gan King. (Ydw, dw i'n hoff iawn ohono fo.) Rhaid i mi gyfadde mod i ddim yn rhy hoff o H.Gruffudd.

asuka said...

gwales.com - wrth gwrs!
rhaid i minnau gyfadde' nad wy'n rhy gyfarwydd â gweithiau heini gruffudd. ond rwy'n hoffi "gweithlyfrau" gareth king; ei ramadeg "comprehensive welsh grammar" yw'r llyfr ganddo rwy'n ansicr yn ei gylch... ond mae hyn i gyd yn haeddu ei bost ei hunan - "hoff adnoddau dysgu cymraeg dysgwyr cymraeg"!

Gwybedyn said...

Ie - mae Gwales yn gallu bod yn dda. Hefyd wrth gwrs mae'n dda weithiau i archebu wrth y siopau eu hunain, sy'n gallu bod yn gyflymach na mynd thrwy Gwales (e.e. Siop y Pethe, Siop yr Hen Bost - gyda'r rhain rwy' 'di delio yn y gorffennol ac wedi cael gwasanaeth wych).

O - ac o sôn am eiriadur _gwirioneddol wych_ Gomer, mae'n werth edrych amdano yn y sêls o bryd i'w gilydd - gellir prynu copi am ddecpunt weithiau (wn i ddim a oes llyfrau rhad ar wefan Gwales ar hyn o bryd). Mae copiau ar gael ar Amazon.co.uk am 13punt.

Wn i ddim am bethau eraill Heini G. ar wahan i'w eiriadur bach (sydd jyst mor fach a mor ciwt a mor ddefnyddiol). Mae rhai o'i lyfrau ef, megis 'Welsh is Fun' ac ati, wedi dyddio braidd, on'd y'n nhw?

Gwybedyn said...

oddi wrth
trwy

sori! teipio a golygu'n rhy glou