Monday, March 03, 2008

ble yn y byd?


a finnau newydd ddod i fyd 'ma blogio, rwy 'di bod yn cael llawer o hwyl yn ystod y misoedd diwetha' yn dod i nabod y blogiau cymraeg i gyd, gan gynnwys y blogiau gennyn ni'r dysgwyr, sy'n cael eu hysgrifennu yng nghymru ac yn yr unol daleithiau 'fyd. ond ie, dyna rwy'n pendroni drosto: cymru ac u.d.a.
ble mae'r blogiau cymraeg ereill? bob tro byddi di'n siarad â thiwtoriaid cymraeg yng nghymru, byddi di'n clywed am ferch o japan maen nhw'n nabod neu ryw foi o wlad pwyl neu seland newydd sy wedi dysgu cymraeg ac wedi cyrraedd safon uchel iawn. wel, ble maen nhw ar y rhyngrwyd?
falle nad blogio mo'r peth cŵl bellach ac mae siaradwyr cymraeg mewn lleoedd eraill yn ymweld â rhyw rith-gymru fach yn second life neu rywbeth arall mae'n anos cael hyd iddo.
oes rhywun sy'n gwybod?
(alla' i mo 'nal rhag meddwl am lain druan fan hyn - o'r herwydd dewisais i'r llun uchod. tybed ble mae hi bellach? tybed oedd hi'n medru cymraeg?).

4 comments:

Emma Reese said...

Am fy mod i heb ddarllen dy flog i gyd, dw i ddim yn gwybod dy gefndir. Ond mae'n ddiddorol fod ti wedi dewis enw Japaneaidd a finna sy'n Japaneaidd un Cymreig.

Ydy, mae blogio'n llawer o hwyl ac yn ffordd dda i ymarfer Cymraeg ysgrifenedig.

Mae 'na flogwyr Cymraeg yn Tseina ac yn Canada hefyd.

asuka said...

hei, diolch am yr ymateb!
ti'n gywir - sa' i'n gweud y gwir i gyd yma. rwy 'di darllen blogiau o ganada ac o'r ariannin hefyd. ond wedi gweud hynny, sa' i'n cofio dod ar draws unrhyw flog cymraeg sy'n cael ei sgrifennu yn asia nac yn awstralasia (er enghraifft) ar hyn o bryd ar wahân i rai gan gymry cymraeg oedd yn treulio amser yno, a dyna oedd genny' mewn golwg, rwy'n credu.
am 'mod i'n dod o awstralia, byddwn i wrth 'modd yn cael y cyfle i ddarllen llwyth o flogiau o leoedd sydd mor bell o gymru, ac sa' i'n deall pam nad oes llu o ddysgwyr i'w wneud e!
cymerais i'r enw asuka gyda llaw o gyfres anime oedd yn boblogaidd iawn yn awstralia.
(mae'n debyg bod diwylliant japan yn fwy dylanwadol fyth yn awstralia nag yw e yn america).

asuka said...

ond wrth gwrs 'mod i'n leicio'r syniad bod pobl fel y ni sy'n *dod* o wledydd mor bell o gymru yn sgrifennu ar y we beth bynnag!

Gwybedyn said...

Rwy'n nabod ambell i un fan hyn a fan draw, sydd wedi dysgu Cymraeg, ond wn i ddim a oes blogiau gyda nhw.

Wrth sôn am Gymry a thramorwyr, diddorol oedd gweld rhaglen ar S4C yn ddiweddar, 'Arwyr' (ar gael oddi ar y wefan) oedd yn gwneud tipyn o ddefnydd o'r Bwyleg. Drama o ryw fath oedd hi - nid yr actio (na'r sgriptio) gorau yn y byd, ond yr agwedd aml-ddiwylliannol yma yn ddiddorol iawn imi. Mae'r ddrama'n dechrau ac yn gorffen gyda 'Cilmeri' Gerallt Lloyd Owen, wedi'i chyfieithu i'r Bwyleg: 'W nocy, W tym miejscu/ Zabito Llywelyn/ Nigdy tego nie zapomnie" (Fin nos, fan hyn/ Lladdwyd Llywelyn/ Byth mi gofiaf hyn).