Thursday, February 28, 2008

rhy cŵl rhan ii


'ma rywbeth arall sy'n rhy cŵl o lawer i gael ei gyflwyno i ni'r dysgwyr cymraeg - y peth 'na lle rwyt ti'n rhoi gair disgrifiadol cyn y ferf:
"rwy'n rhyw bendroni..."
"roedd hi'n hanner eistedd"
alla' i'm dychmygu pa brawf byddai'n rhaid i ddysgwr/aig ei basio er mwyn cael acsesu cyfrinach fel hwn'na!
(pam y llun o ikari gendo uchod? achos mae yntau jest yn rhy cŵl, wrth gwrs!)

2 comments:

Gwybedyn said...

pa bynnag brawf sydd yno i'w basio, mae'n amlwg dy fod dithau wedi graddio!

asuka said...

y gwahaniaeth rhwng sylwi ar fodolaeth rhywbeth a gallu ei wneud e'n iawn! :)