Thursday, February 14, 2008

cystadleuaeth newydd! gwobrau i hennill!


chimod be' sy eisiau fan hyn? cystadlaethau! beth am inni gynnal cystadleuaeth enwi cath fach neu gi bach, fel y rei sy ganddyn nhw ar blue peter?
bydd y nifer o ymwelwyr â'r blog 'ma'n codi dros nos a'r wn i, a chewn ni i gyd fwy o hwyl nag byddech chi'n meddwl sy'n bosibl. cewch chi weld.

6 comments:

Magaidh said...

diolch yn fawr i ti am y neges ar fy mlog i! :) Dw i mor hapus - dw i'n edrych ymlaen ato fe yn fawr iawn!

Sut wyt ti? Dw i'n hapus gweld dy fod di'n postio fan hyn -- ond bydd rhaid i Matthieu fy helpu i gyda'r Gymraeg :)

asuka said...

hyfryd dy weld di ar y blog yma! dere 'nôl yn amal!
roedd hi'n wych cael darllen ychydig ar dy flog di am sut mae bywyd yn mynd 'da ti, gan gynnwys y newyddion cyffrous. (llongyfarchs unwaith eto am hynny!)
a finnau? wel, dyma fi'n iwso fy ffan lyfli, japanaidd roioch chi imi dan eistedd yn fy stafell wely ym mangor, ac yn meddwl am yr hen le yn somerville. am sbort gaethon ni. hei mae'n ofnadwy nad ŷn nhw 'di trwsio'r ffenest 'to. oes posib atal rhent nes iddyn nhw wneud rhywbeth?

Gwybedyn said...

ie - atal rhent oedd cynnig rhywun arall yn y tŷ, ac ryw'n cytuno gant y cant ag ef.

Gwybedyn said...

hei, 'Suk - beth yw'r ail blentyn 'ma?

Gwybedyn said...

byddwn i'n enwi'r gath yn "bydew o walltgofrwydd"

asuka said...

mae "ail blentyn" yn URL blog own i eisiau ei neilltuo rhag ofn bydda' i am sgrifennu blog personol yn y dofodol. (cyfeiriad yw'r geiriau at y gyfres anime "neongenesis evangelion" - am raglen!)
ie, atal rhent. dyna'r unig ffordd celai unrhyw beth ei wneud yn baltimore. mae'n swnio dros ben llestri fel tacteg, ond mae'n hollol resymol os nad ŷn nhw'n edrych ar ôl y lle.