Friday, February 15, 2008

cystadleuaeth enwi cath wycha'r byd!


mae'r gystadleuaeth wedi dechrau ond mae 'na amser o hyd!

dyma'r ddau awgrym cyntaf ichwi:
1) pydew o walltgofrwydd
2) mr snowman

ond os wyt ti'n credu bod dy syniad di'n well na'r rhain, rho wybod inni!
rho gymaint o gynigion ag rwyt ti eisiau - rhaid sicrhau caiff y gath fach enw cystal â phosib!
(rwy 'di gweld y gwobrau, ac mae'n nhw'n rîli, rîli lysh.)

6 comments:

Gwybedyn said...

syniad pwy yw "Mr Snowman"? Wyt ti'n caniatau enwau di-Gymraeg?

Enw arall, felly: Chwibanda (am ei bod hi'n chwibanu, yn lliw panda, yn haeddu cael ei chyfarch yn ffurfiol, ac yn dda 'fyd)

asuka said...

sa' i'n cofio syniad pwy oedd mr snowman, ond ta waeth am hynny gelli di fod yn sicr bydd "chwibanda" yn ymuno â'r enwau eraill ar y rhestr!

asuka said...

o ran a ydy enwau di-gymraeg yn iawn neu beidio, rwy'n teimlo dylai pobl wneud beth bynnag byddan nhw'n moyn!

asuka said...

enw arall: gerwin

asuka said...

squark

Gwybedyn said...

ok - cewn nhw wneud yr hyn mae nhw mo'yn, ond chewn nhw ddim defyddio 'yn' gyda "mo'yn"

;)

enw arall: Cethlyn bach

('wn i ddim pam)