Thursday, February 07, 2008

Cofi Bach a Tew Shady



"Triwch hi ar"

"Saith gwaith yn waeth"

7 comments:

Malone said...

Ych. Dwi ddim yn eu hoffi nhw o gwbl. Gwan iawn.

Sori!

Unknown said...

fel y dywedodd Oscar Wilde - y peth gwaethaf na bod pobl yn siarad amdanat yw bod neb yn siarad amdanat...

be' sy'n bod arnyn nhw?

asuka said...

diddorol. sa' i'n rhy sicr am ffordd mae asesu miwsig rap, ond rwy'n leicio'r llygaid llydain llawn "'tood". ys dywedodd cymeriad jack black yn "school of rock", "now open your eyes real wide like there's something wrong with you". yeah!

Malone said...

Fel y dywedodd Oscar Wilde - "Absolute catholicity of taste is not without its dangers. It is only an auctioneer who should admire all schools of art."

asuka said...

wrth sôn am "catholicity of taste"... pan own i yn awstralia gwelais i hysbysebion dros gyngherddau i ddod gyda "the pipettes" ac "iron maiden," a wnaeth ifi feddwl, waw - 'sai un yn cynnal y llall, yn byddai hynny'n wych o gyngerdd?

Gwybedyn said...

ia, ond...

on'd oes 'na wahaniaeth rhwng diffyg catholigiaeth a theimlo bod rhywbeth yn "wan iawn"? Mae datganiadau o'r fath yn gwaeddu am i rywun waeddu "cyfiawnhad!!!" yn ôl!

cyfiawnhaaaaaaaad!!!!

Gwybedyn said...

(rhaid imi gyfaddef, rwy jyst yn gwirioni ar y ffaith fod merched Caernarfon hyd yn oed yn ystyried gwneud pethau fel hyn, a'u gwneud i'r cynnyrch swnio hyd yn oed yn hanner derbyniol!)

ar y ffens ydw i o ran y gerddoriaeth...