dyma rywbeth od.
so p.w. thomas yn sôn am y defnydd ar y cysylltair "nes" mewn cymalau canlyniad er ei fod yn hollol idiomatig (yn dyw e?). rhyfedd, ac yntau mor gynhwysfawr.
neu ydw i'n colli rhywbeth...?
Tuesday, February 05, 2008
beth nesa?
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
4 comments:
dere ag enghraifft ini
rwy'n gwybod nad yw cymraeg wicipedia yn safonol ofnadwy bob tro, ond ta waeth am hynny, fan'na ces i hyd i enghraiff da o beth oedd genny' mewn golwg:
"Cymaint oedd ei ddrwgdybiaeth at yr Unol Daleithiau nes iddo ddod i gredu mai asiantiaid cudd America, yn hytrach na Gweriniaethwyr Gwyddelig, a lofruddiodd yr Arglwydd Louis Mountbatten yn 1979."
diddorol.
dylen ni sgwennu at yr Athro Thomas i holi.
Mae'r frawddeg Wici 'na yn edrych yn holliach, on'd yw hi?
ydy.
fyddai hi cystal sgrifennu "fel y daeth"?
wnelai fe wahaniaeth?
Post a Comment