Sunday, January 13, 2008

chiiiii!


newydd gyrraedd 'nôl yn efrog newydd, ac yn treio rhoi rhyw drefn ar bethau fan hyn (fel miss hibiya ar y chwith) cyn hedfan i gymru. cymru - rwy'n edrych 'mlân ond gyda rhywfaint o ofn ar yr un pryd!
mae gen i fideo a ffotos pert iawn o fy nith a fy nai yn awstralia ond sa' i am eu rhoi nhw ar y we heb ganiatâd eu mam nhw.

10 comments:

Malone said...

Croeso'n ôl i'r Afal Fawr, 'Suka!!! O - dwi'n deall yn ddigon iawn pam nad wyt ti eisiau postio lluniau dy nith a nai - ond gobeithio fydda i'n cael cyfle i weld dy ffotos a fideo di un dydd yn y dyfodol. (Dwi'n sicr bod nhw'n reit ciwt!)

Gwybedyn said...

croeso 'nôl, rhen 'Suk!

oes siawns inni gwrdd am beint cyn iti hedfan?

prynais gopi o 'Teach Yourself Welsh Grammar'... mae 'na ddeunydd sgwrs yn fan'na heb os.

asuka said...

'sephonia, ydyn, maen nhw'n hynod o giwt! gwna' i hala lluniau er mwyn iti weld jest pa mor anghyffredin o giwt yw'r ddau ohonyn nhw!
fydda' i ddim yn gallu dod i boston cyn hedfan gwaetha'r modd: ddydd sadwrn rwy'n gadael! mae'n drueni - byddwn i wrth 'modd yn cael diod a sgwrs.
ond leiciwn i glywed barn y chwilen am y llyfr TYWG ta waeth. dim ond cael cipolwg drosto ddwywaith wnes i, ond rown i'n leicio'r hyn welais i.* beth amdanat ti, szch? byddai'r blog 'ma'n lle da i fynegi barn a'r wn i.

* (ond wedi dweud hynny, mae 'na bethau wy'n ffaelu eu deall bob tro mewn llyfrau fel'ny i ddysgwyr, megis cyflwyno ffurfiau fel "rhyngot ti" a "drostot ti" ar yr un tudalen. beth sy'n gwneud "rhyngddot" yn anghywir anghywir os wyt ti'n derbyn "drostot"? falle 'mod i'n colli rywbeth yma...)

Gwybedyn said...

af i ddarllen trwy'r llyfr yna'n fwy manwl. Y peth cyntaf sylwais i arno - peth sy'n fy nghorddi yn rhy rhwydd, a dweud y gwir - oedd cynllun gwael y peth yn gyffredinol, 'layout' y peth, hynny yw, y cysodi. Fyddwn i ddim eisiau darllen y llyfr yna 'swn i'n dysgu Cymraeg.

Ga' i weld lluniau, hefyd!?

Rwy' eisiau gweld llun ohonot ti, 'Suk, yn mewn bikini wrth y barbi, hefyd, gyda dy syrffbord yn gorwedd i'r naill ochr a'th gopi o Peter Wynn Thomas i'r llall! :)

Gwybedyn said...

wps; overload arddodiadol yn mewn y fan'na!

asuka said...

cei! cewch chi'ch dau!

Gwybedyn said...

Diawch - mae plant yn tyfu'n glou "lawrdan" - yr un ciwtiaf yw'r bachan gyda'r gwallt cyrliog a'r cwpan yn ei law. Tipyn o dric - yfed te wrth siglo ar y siglen... ife Earl Grey sydd yn y cwpan 'te Castlemaine XXXX?

Rwy'n leicio'r hetiau dwl - mae fy nheulu i'n gorfodi gwisgo pethau fel'na hefyd! Mae'n dda gweld fod cenhedloedd eraill cyn hurted â'r Prydeinwyr.

Ife Iolo Morganwg yw'r boi yn y llun tu ôl i'r ford?

asuka said...

rwy'n credu taw paned o assam oedd e yr adeg honno, ond cath digon o castlemaine xxxx ei yfed hefyd, a vb, reschs, cascade, coopers, a'r lleill. fy chwaer i oedd yn yfed gan amlaf wrth gwrs.

Malone said...

Diolch am y ffotos, 'Suk. Dy nith a nei di ydy mor addoladwy (nid sôn am y plentyn mawr ar y siglen!)

asuka said...

diolch! rwy' innau'n eu cael nhw'n annwyl braidd :)
'na lun del yn yr eira o flaen y car 'fyd!