Friday, November 09, 2007

cynnig asuka: rhan 1

Roedd un peth yn sicr, nad oedd gan y gath fach wen ddim rhan ynddo: - bai’r gath fach ddu ydoedd yn llwyr [/ar y gath fach ddu roedd y bai i gyd]. Oherwydd roedd y gath fach wen yn cael golchi wyneb gan yr hen gath ers y chwarter awr ddiwethaf (ac yn ei ddioddef yn eithaf da, o ystyried popeth); felly ni allasai, welwch chwi, fod wedi bod â llaw yn y direidi.

3 comments:

asuka said...

ond... beth am yr ystyr gorberffaith i'r frawddeg gyntaf? falle dylwn i ddweud "nad oedd y gath fach wen wedi cymryd dim rhan ynddo" neu "na chymrasai'r gath fach wen ran ynddo"...

Gwybedyn said...

Un peth oedd yn sicr, nad oedd a wnelo’r gath wen ddim a’r peth: - ar y gath fach ddu ’roedd y bai yn gyfan gwbl. Oherwydd roedd y gath fach wen wedi bod wrthi’n cael ei hwyneb wedi’i golchi gan yr hen gath ers chwarter awr (ac yn ei dderbyn yn eithaf da, o ystyried); felly mi weli di na allasai fod wedi cymryd rhan yn y drygioni.

Gwybedyn said...

y peth i'w gofio am y darn yma, 'fallai, yw mai darn eithaf 'sgyrsiol' ei naws yw ef - sgyrsiol, ysgafn, a dweud y gwir (o ystyried y cyfnod). Felly byddwn innau yn erbyn defnyddio 'cymerasai' (er 'mod i fy hun wedi defnyddio '[g]allasai'..., tybed...).

hmm, a beth am yr 'oherwydd roedd'...?

Rwy'n leicio'r "welwch chwi", gyda llaw, Asuka - mae'n gweddi'n wych i naws y darn (llefarydd 'sicr iawn ei G/Chymraeg'!) :)