iawn, 'te. nes inni gyflwyno ein darnau "swyddogol" cynta' ni ddydd llun gwna' i ddal i drin y wefan 'ma fel ein blog pob dim. tan orwedd yn 'ngwely claf yma [peswch], rwy' 'di bod yn ailwylio un o fy hoff ffilmiau erioed: "ugestu" gan mizoguchi. waw, am ffilm! rwy'n leicio'r darn lle mae'r prif foi yn yfed gyda'r ladi wen ac yn sydyn dyna helm dad yr ysbryd yn dechrau canu - ac mewn llais mor ddychrynllyd! un o'r ffilmiau 'na nad wyt ti am iddyn nhw ddod i ben, gan mor hudol yw'r byd maen nhw 'di mynd â ti iddo.
Thursday, October 11, 2007
ugetsu
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
6 comments:
W, ddim wedi gweld hyn, na dim byd arall gan Mizoguchi. Wna i drial ffeindio rhywbeth i'w lawrlwytho nawr.
dylet ti wir! mae 'na ffilmiau rwy'n leicio cymaint â hon, ond sa' i erioed 'di gweld un fwy "barddonol."
Wedi methu ffeindio copi ar y we, ond dw i wedi ffeindio Zangiku Monogatari - wna i wylio hwnna nes ymlaen, os ga i amser.
byddai genny' ddiddordeb mewn darllen dy sylwadau di - rwy'n cofio mwynhau'r ffilm yna hefyd yn fawr iawn, er na ches i hi cweit mor drawiadol ag "ugetsu".
y'ch chi 'di codi chwilfrydedd ynof innau eto yn y ffilm hon. Ond dim ond un copi ar DVD sydd yn y llyfrgell yma, a honno'n "lost".
Mae 'na rai pethau sydd jyst yn _rhy_ hardd, mae'n amlwg.
nic, diolch am y geiriau caredig ar dy flog ynghylch ein blog bach ni!
szczeb, os wyt ti'n bwriadu aros yn yr ardal am flwyddyn arall, dylet ti ystyried ymaelodi â "netflix" - so fe'n ddrud ac mae ganndyn nhw bron popeth sydd ar gael ar dvd.
Post a Comment