Thursday, October 18, 2007

reis am ddim

Dwi wedi darganfod hon ar y safle Languagehat - gêm eirfa ddiollwng ydy "Free Rice," ond mae ar gyfer achos da.

(Dwi ddim yn gallu sgorio'n uwch na 48 ar hyn o bryd. Beth amdanoch chi?)

7 comments:

asuka said...

wnes i chwarae'r gêm a dim ond 45 ges i. ac rhaid i fi ddweud bod 'na un cwestiwn gwirion iawn:
beth yw ystyr y gair "budgerigar"?
"parakeet" oedd yr ateb. i fod.
ofnadwy! mae'r cwestiwn â'i ben i waered yn llwyr: "bydji" yw'r gair go iawn!! pwy sy'n dweud "parakeet"??

Malone said...

wel, fi, am un! (Americaniaid! ych!)

dwi wedi dod i lefel 50 nawr - mae tipyn o "learning curve," ond ydy.

Hei - dwi eisiau gêm fel hon yn y Gymraeg!!

asuka said...

yn gymraeg... waw... byddwn i'n cyrraedd 2 falle.

Gwybedyn said...

diawch, mae'n anodd tynnu'n rhydd o'r ge^m! 48 ges i. Mae'n cymryd oesoedd i ennill pwyntiau 'no^l, on'd yw hi - es i'n syth lawr i ryw 42 ac yna ddringo i 47 a reit lawr i 41 a^ fi! Mi fwydais i lond pentref, siwr o fod!

Gwybedyn said...

ond mae'n anghywir weithiau - ysytyr 'gestate' yw 'conceive', myntai hi... mae 'na ychydig o wahaniaeth, on'd oes?

Magaidh said...

Cafodd Matthieu 50 yn hawdd, ond ches i ddim fwy na 48 (heb cheating!).

asuka said...

bob tro rwy'n ei dreio fe, rwy'n mynd yn waeth.