Monday, October 15, 2007

Fersiwn Seoirse

Oddi tano ni welai ond môr gwyn anferth o gymylau tonnog. Uwchben roedd yr haul, a hwnnw’n wyn fel y cymylau, oherwydd dydy’r haul byth yn felyn o’i weld yn uchel yn yr awyr.

Roedd yn dal i hedfan y Spitfire. Roedd ei law dde ar y ffon, ac roedd yn gweithio'r bar llywio â’i goes chwith yn unig. Roedd yn eithaf hawdd. Roedd y peiriant yn hedfan yn dda, ac roedd e’n deall ei waith.

Mae popeth yn iawn, meddyliodd. Rwy'n gwneud yn iawn. Rwy’n gwneud yn dda. Rwy’n gwybod y ffordd adref. Fe fydda’ i yno ymhen hanner awr. Pan fydda’ i’n glanio fe fyddai’ i’n trolio’n hamddenol ac yn diffodd yr injan ac yn dweud, helpwch fi ma’s, wnewch chi. Fe fydda’ i'n gorfodi fy llais i swnio'n gyffredin a naturiol a 'fydd neb ohonyn nhw’n cymryd unrhyw sylw. Yna fe fydda’ i’n dweud, da chi, wnaiff rhywun fy helpu ma’s. Fedra’ i ddim ar fy mhen fy hun oherwydd dim ond un goes sy’ gen i. Fe fyddan nhw i gyd yn chwerthin ac yn meddwl ’mod i’n smalio, ac fe fydda’ i’n dweud, iawn, dewch i weld, y bastads gwirion. Yna bydd Yorky yn dringo i ben yr adain ac yn edrych i mewn. Yn fwy na thebyg fe fydd e’n chwydu oherwydd yr holl waed a llanast. Fe fydda’ i’n chwerthin ac yn dweud, er mwyn Duw, helpwch chi ma’s.
Cafodd gipolwg arall ar ei goes dde. Doedd fawr ddim ohoni ar ôl. Roedd y bêl fagnel wedi taro'i forddwyd, ychydig uwchben ei ben-glin, a nawr doedd dim ar ôl ond llanast llwyr a llawer o waed. Ond doedd dim poen. Pan edrychodd i lawr, teimlodd fel pe bai’n gweld rhywbeth nad oedd yn perthyn iddo. Doedd a wnelo ddim ag e. Dim ond llanast a oedd yn digwydd bod yno; rhywbeth rhyfedd ac anarferol a diddorol braidd. Roedd ’run fath â chael hyd i gath farw ar y soffa.

Teimlai’n iawn, ac am ei fod yn teimlo’n iawn, teimlai’n llawn cyffro a heb ofn.

1 comment:

asuka said...

croeso, seoirse. hmmm. mae dy waith di'n /edrych/ yn iawn. aros, wnei di, tra doda' i awch ar 'mhensil. :D