Monday, October 15, 2007

fersiwn asuka

Islaw nid oedd ond môr o gymylau, helaeth, gwyn a thonnog. Uwchben roedd yr haul, ac roedd yr haul yntau yn wyn fel y cymylau, oherwydd ni bydd yn felyn byth pan edrychir arno oddi uchel yn yr awyr.

Hedfan y Spitfire roedd ef o hyd. Roedd ei law dde ar y ffon, a gweithiai far y llyw â’i goes chwith yn unig. Roedd hi'n ddigon hawdd. Roedd y peiriant yn hedfan yn dda, a gwyddai beth roedd yn ei wneud.

Popeth yn iawn, meddyliai. Rwy'n gwneud yn iawn. Rwy'n mynd yn dda. Rwy'n 'nabod y ffordd adref. Byddaf yno ymhen hanner awr. Pan laniaf, powliaf i mewn a diffodd yr injin ac fe ddywedaf, helpwch fi i fynd allan, wnewch chi. Gwnaf fy llais yn naturiol ac yn arferol ei sŵn ac ni thala neb ddim sylw. Yna dywedaf, all rhywun fy helpu i i fynd allan. Alla' i mo'i wneud e ar fy mhen fy hunan achos rwy' 'di colli coes. Chwarddan nhw i gyd a meddwl fy mod i'n cael hwyl, a dywedaf fi, o’r gorau, dewch ac edrych, y diawliaid anghrediniol. Yna dringa Yorky i fyny ar yr adain ac edrych tu mewn. Chwyda, mae’n debyg, o achos y gwaed a’r llanastr i gyd. Chwarddaf finnau a dweud, er mwyn Duw, helpwch fi allan.

Bwriodd gipolwg i lawr ar ei goes dde. Nid oedd fawr ohoni ar ôl. Roedd y belen canon wedi ei daro ar y glin, yn union uwchben y pen-glin, ac 'nawr nid oedd ond llanastr mawr a llawer o waed. Ond nid oedd dim poen. Pan edrychai i lawr, roedd fel petai’n gweld rhywbeth nad oedd yn perthyn iddo. Nid oedd a wnelo ddim ag ef. Llanastr ydoedd a ddigwyddai fod yno yn y caban; rhywbeth rhyfedd ac anarferol, diddorol braidd. Roedd yn debyg i ddarganfod cath farw ar y soffa.

Teimlai’n iawn mewn gwirionedd, ac oherwydd roedd yn dal i deimlo'n iawn, teimlai’n llawn cyffro, di-ofn.

7 comments:

Gwybedyn said...

iawn, 'te. Gad inni ddechrau'n bryfoclyd yn y dechrau.

1. "Islaw nid oedd ond môr o gymylau, helaeth, gwyn a thonnog."

Beth sy'n mynd 'mlaen gyda'r coma ar o^l "[c]ymylau"?

2. "Uwchben roedd yr haul, ac roedd yr haul yntau yn wyn fel y cymylau,"

Beth 'mae'r "yntau" yn ei ychwanegu at y frawddeg? Oes eisiau dyblu'r goddrych (haul, yntau)?

asuka said...

roedd rhesymau 'da fi, ond falle nad ŷn nhw'n rhy gall!

1. "Islaw nid oedd ond môr o gymylau, helaeth, gwyn a thonnog."

ro'n i'n treio llunio rhywbeth cyfwerth â:
"... môr o gymylau, yr hwn a oedd yn helaeth, gwyn a thonnog"
neu:
"... môr o gymylau, môr helaeth, gwyn a thonnog"

2. "Uwchben roedd yr haul, ac roedd yr haul yntau yn wyn fel y cymylau,"

ro'n i'n anelu at rywbeth fel:
"... ac roedd yr haul hefyd yn wyn..."
neu:
"... ac roedd yr haul o'i ran e yn wyn..."
ond ar batrwm yr enghraifft hwn mas o peter wynn thomas (t. 251):
"Yr oedd yr hen bobl hwythau wedi drysu'n lân."

Gwybedyn said...

Digon teg! Rwyf wedi bod yn ymgynghori, a dim ond fi sy'n teimlo fod yr 'yntau' yn lletchwith yno - mater o farn a chwaeth. Eto, nid yw'r Chrzaszcz yn enwog am fod yn bleserus, cariadus, ciwt. :)

asuka said...

dyw s.c. ddim yn enwog am giwtrwydd? sa' i'n ei gredu e! beth am bostio llun er mwyn inni weld? ond beth bynnag am giwtrwydd, mae s.c. yn ddarllenydd craff bendant.

Gwybedyn said...

Diwrnod neu ddau yn ddiweddarach ac mae'r 'yntau' yn dal i beri i mi grafu 'mhen. Mae na ormod o gyfeirio at y goddrych yn fy marn i. Wela' i ddim diben i'r yntau.

Ta waeth, ymlaen at faterion eraill.

Gwybedyn said...

Mae rhyw deimlad gen i fod "dewch ac edrych, y diawliaid anghrediniol" yn swnio ychydig yn ormod fel calque ar y Saesneg.

asuka said...

diolch am y sylwadau! cytuno'n llwyr ynghylch "dewch ac edrych". byddai "dewch i weld" yn LLAWER gwell.
ro'n i'n treio adlewyrchu lletchwithdod y gair "unbelieving" trwy ddefnyddio'r gair "anghrediniol", ond falle 'mod i'n rhy llwyddiannus mewn bod yn lletchwith!