Friday, October 19, 2007

Cymro mwyaf America (a gorau oll yn Lloegr Newydd)

Pwy, felly, yw Cymro (neu Gymraes) m/fwyaf America (heb gyfrif Ap Meurig (Amherig), Madog, Tom Jones ac Anthony Hopkins, wrth gwrs)?

Elihu Ia^l? (rhyw fath o Gymro; rhyw fath o Americanwr)
Iorthryn Gwynedd (Bardd gydag enw gwych)?
Llinos Glan Ohio (ditto)?
Harriet Beecher Stowe?
Frank Lloyd Wright?
Gwilym Ddu? (bardd a meddwyn)
Dafydd ab Hugh? (nofelydd)
D.W. Griffith (pencerdd y ffilm)?
Henry Morton Stanley?
David Thomas (Dyn Haearn)?
William Penn?

Cwestiwn arall yw - pa mor Gymreig oedd Elihu Ia^l (ac yn bwysicach, efallai - pa mor Gymraeg)? Roedd e' o dras Cymreig (a Gwyddelig) heb ei ail, mae'n wir. Ond ydy tras o gymaint o bwys? Fe'i ganed yn Boston, gwnaeth ei gyfoeth yn yr India a bu fyw am dipyn go lew yn Llundain. Gawn ni ei hawlio? Oes pwynt?

6 comments:

asuka said...

rwy'n ffaelu adnabod y mwyafrif ohonyn nhw, ond mas o fy anwybodaeth anferth i, dyweda' i taw d.w. griffith yw'r boi. "intolerance" - am ffilm! gallwn i wylio'r tair awr i gyd bob gyda'r nos am weddill fy oes heb gwyno. enwa un ffilm arall sy'n mynd â ti i fabilon, calfari, llys siarl nawfed ffrainc, america i gyd ar yr un pryd! wnaeth harriet beecher stowe y fath ffilm? naddo (hyd gwn i).

Gwybedyn said...

ie - fedra' i ddim meddwl am ffilm fel' na. Ond a wisgodd ef erioed catsuit glas marine? Rhaid inni gael ein egwyddorion a blaenoriaethau'n glir, os am feirniadu'n gywir a chall.

Malone said...

Amen, frawd.

asuka said...

pwynt da. (at elihu chi'n cyfeirio, yntê?)

Gwybedyn said...

Elihu Ia^l:

Born in America, in Europe bred,
In catsuits travell'd and in latex wed,
In which long he liv'd and thriv'd; in marine blue dead

Gwybedyn said...

Y lliw a gafodd wedyn enw'r dyn ei hun fu mor hael ei wyrdd:

http://en.wikipedia.org/wiki/Yale_Blue