Monday, February 09, 2009

Sut mae, pawb! Maggie 'dw i -- 'dw i yng nghwrs Aled gydag Eric. Myfyrwraig 'dw i yn yr adran Geltaidd, yn y flwyddyn gyntaf. Roeddwn i'n byw gydag Asuka, Szczeb, a Matthieu, fy nghariad ('dw i'n byw gydag ef o hyd -- ond dydy ef ddim yn arfer postio fan hyn, 'dw i ddim yn deall pam!).

Mae fy nhymor yn brysur iawn. 'Dw i'n dysgu 6 iaith (4 cwrs yn ystod y dydd, a 2 eraill gyda'r nos): Cymraeg, Gwyddeleg, Ffrangeg, Cymraeg Canol, a hefyd Llydaweg ac iaith Gwlad yr Iâ. Mae un cwrs arall gyda fi y tymor hwn: llên gwerin Sgandinafaidd. Mae hynny'n wych -- roeddwn i'n nabod yr athrawes pan roeddwn i'n fyfyrwraig israddedig.

Oh, tipyn bach o newyddion! Mae Matthieu a fi'n cynnig am fod yn diwtoriaid preswyl yn neuaddau preswyl Harvard -- gobeithio y byddwn ni'n byw yn Nhŷ Eliot y flwyddyn nesaf! Ac mae Matthieu wedi addo imi y bydd cath gyda ni os byddwn ni'n byw mewn tŷ :)

Sunday, February 08, 2009

Cyflwyniad

Helô! Eric ydw i, ac rydw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ers mis Medi (mae hyn yn swnio ychydig fel dechrau cyfarfod AA, on'd yw hi?). Rhag ofn eich bod chi'n gofyn pam dechreuis i ddysgu'r iaith, allaf i ddim meddwl am reswm gwell na chredu ei bod hi'n hardd iawn...ond nawr mae lot o resymau gyda fi i barhau.

Rydw i'n astudio hanes a gwleidyddiaeth Rwsia a'r hen Undeb Sofietaidd. Rydw i'n gofyn imi fy hun yn aml pam dewisais i'r maes yma, ond wedyn rydw i'n ffeindio rhywbeth fel hyn a chofio. Byddaf i'n ymladd y chwant i bostio storïau chwerthinllyd am Rwsia bob wythnos, er y bydd yn anodd iawn i'w wneud...

Sunday, January 25, 2009

Cau Ysgol Mynyddcerrig

Fel y gwyddoch, mae'n siwr, mae tipyn o ddadlau yng Nghymru ar hyn o bryd ynghylch polisiau nifer o gynghorau sir i gau ysgolion llai. Er fod dadleuon da weithiau dros symud plant i ysgolion mwy does dim amheuaeth nad yw'n benderfyniad sy'n tynnu'n groes i sawl greddf. Mae hefyd dadleuon da iawn dros eu cadw ar agor. Dyma ffilm gan Lleucu Meinir yn dangos dyddiau olaf ysgol Mynyddcerrig. 



Sunday, January 18, 2009

Dunkin' Like Dewi - Dathliadau difyr ar Ddydd Gwyl Dewi eleni.



Ar Ddydd Gwyl Dewi eleni bydd nifer o bobl yn Lloegr Newydd yn dilyn hen arferion y seintiau Celtaidd, gan weddio yn nwr oer y môr. Dyma grwp bach yn gwneud "dry run" ddoe ^^.

Saturday, January 10, 2009

Tawelwch




Newydd weld y llun yma ar wefan Barn a meddwl - diawch, rwy' eisiau postio honno yn rhywle! Dyma ni, felly. Mae gwefan HarvardCymraeg wedi bod yn mwynhau trwmgwsg gaeafol ers tro - ac arni angen ychydig o baent!


Ar drywydd tawelwch tristach, cofiwn heddiw T. Llew Jones, a fu farw yn 93. Heddwch iddo a diolch. 


Sunday, November 09, 2008

pwy sy'n nabod eu html?

hei, oes rhywun yma yn ddigon clyfar i allu addasu cyngor zoë aderyn cân dro yn ôl er mwyn inni newid y dyddiadau ar y blog 'ma yn gynllun cymraeg?

byddai hyn'na'n wych downtsia-thinc? (er 'mod i'n eitha' hoff o'r rhai japaneg, ffrangeg a phwyleg!)

Wednesday, November 05, 2008

Cymrodorion Boston / Boston Cymrodorion

Gwefan newydd gan y Cymrodorion yn Boston, cymdeithas sy'n bodoli ers dros ganrif, ac y byddai yn sicr yn falch o glywed gan aelodau newydd:

Cymrodorion Boston / Boston Cymrodorion

"Cymrodorion" neu "Cymmrodorion"... dyma gwestiwn arall!

Friday, September 19, 2008

Dolen ddoniol

Ydy rhywun wedi weld y dudalen 'ma?

YMA

Rwy i'n meddwl taw prosiect hwyl yw ef. Gwelais i'r 'dolen' ar yr Adroddiad Drudge.

Buchedd Martin Sant

o glicio ar y llun uchod, ymddengys testun maint llawn mewn ail ffenestr. fel arall, cewch fynd at y ffynhonnell:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru. "Llawysgrif Gutun Owain (LlGC 3026C), t. 37." Llyfrgell Genedlaethol Cymru, http://digidol.llgc.org.uk/METS/Gut00001/frames?div=41&subdiv=0&locale=cy&mode=reference
y llyfrgell piau'r hawlfraint, wrth reswm.

Friday, August 29, 2008

Thursday, August 14, 2008

Hapusrwydd heb lofft.




Dolen arall werth ei dilyn yw Y Tŷ Cymreig - cyfres o raglenni ar bensaerniaeth sy'n haeddu cael ei hadnabod yn glasur am wn i.

Y rhaglen ddiweddaraf (ac ewch ati i wylio'n syth bin - ni fydd ar gael yn hir) - yw 'Y Byngalo'. Testun od, efallai - nid yw byngalôs fel arfer ymhlith yr enghreifftiau amlycaf o bensaerniaeth ardderchog, ond yn ddiweddar bu double-act Greg Stevenson ac Aled Samuel (yn y llun) yn goleuo sawl cornel mwy annisgwyl o fyd brics a meini Cymru.

Nid y tai yn unig sy'n ddiddorol yn y rhaglenni hyn, ond yn aml hefyd y bobl sy'n byw ynddynt - co'r boi cyntaf i gael ei gyfweld mewn byngalô: bardd barfol os buo 'na un erioed, a hwn yn siarad math arbennig o wych o'r Gymraeg - sef Cymraeg hollol ramadegol gywir heb yr un iot o acen Gymreig! Gwych o beth, lliwgar, ecsentrig a ffantastig. (Cam neu chwech yn unig o Gymraeg hyfryd Greg Stevenson, sy'n cam-dreiglo bron cymaint â Meic Stevens wrth i'w homunculus o gyfieithydd-ar-y-pryd hynod dalentog weithio'n wyllt ym mherfedd ei ben).

Pobl byngalôs, mae'n debyg, yw pobl hapusaf Prydain... one-liner gorau'r gyfres efallai, gan Aled Laurel i Greg Hardy (er fod Stevenson ryw ychydig yn fwy amyneddgar gyda'i sidekick): "Mae grisiau felly'n gwneud pobl yn drist."

Ond cymerodd dipyn i wneud menyw arall yn hapus; eto, yn unol ag arferion gorau'r rhaglen, dyma agor y drysau ar 'slice-of-life' gwych ac emosiynol wrth i ferch y 'dolydd a'r mynyddoedd' ddisgrifio'r amser hir y cymerodd iddi addasu i fywyd mewn gofod unllawr heb yr un afon ar gyfyl y lle, ar ôl iddi orfod symud i byngalô gyda'i mham ar ôl "profedigaeth". Ac am fyngalô! Enghraifft arbennig o brin o fyngalô ychydig yn Art Deco, yn llawn celfi sy'n hollol gartrefol mewn tŷ o'r fath o'r 30au.

Ac yna byngalô gwych iawn o'r 60au - "shagpile go iawn" yng nghanol lolfa'n llawn o gelfi'r cyfnod; amgueddfa go iawn o gynlluniau'r cyfnod yn gymysg ag ambell i beth ychydig yn fwy traddodiadol.... "Lolfa" am y tro cynta' mae'n debyg, yn cymryd drosodd o'r "parlwr" am taw yn y cyfnod hwn y cafodd pobl y cyfle i 'lounge'o' am y tro cyntaf.

A dyma'r rhaglen yn gorffen gyda byngalô "ychydig yn well na byngalô" a gymerodd bum mlynedd i'w adeiladu - "gwers i bawb sydd eisiau adeiladu byngalô" yn ôl Dr Greg Stevenson, oherwydd y meddwl a'r cynllunio penigamp a aeth i mewn i'r prosiect ("Ty'n y Coed" Eryri), adeilad a ddechreuodd ei yrfa yn gaban gweithywr cyn ei ail-godi'n fyngalô, gan gadw ambell i nodwedd o'r hen adeilad.

Ie, ac mae sylwadau cloi'r Dr Stevenson yn berthnasol nid yn unig i'r math o dŷ a gafodd sylw yr wythnos hon, ond i'r gyfres drwyddi draw, cyfres â phersonoliaeth dawel ddiymhongar gelfydd.

"Mae'n nhw'n dai gonest iawn. Mae'n nhw'n dai hamddenol iawn. Ac maen nhw'n dai hapus iawn. Rwyt ti'n gallu teimlo'r hapusrwydd ym mhob un ohonyn nhw."

Sunday, August 10, 2008

Yn y cach afiach, chaviach




Mae'r blog 'ma wedi bod bach yn dawel yn ddiweddar... pawb bant yn mwynhau'r haul a'r cwrw ym mhedwar ban byd...

Gwn fod Kasi a Becky wedi bod yn mwynhau haul a chyffro'r Eisteddfod Ddinesig - wrth aros iddyn nhw ddod yn ôl, dod at eu coed a challio unwaith eto ar ôl gor-ddôs o gymreictod a threigladau meddwl, dyma flogiad da iawn i aros pryd.

O, ie - ac os ydych chi heb glywed Derwyddon Dr Gonzo, yna ewch ati da chi i wella'ch bywyd estheto-seinyddol drwy wneud hynny!

Heiya - mae blog "Bo" yn werth ei ddarllen. I'r rhai ohonoch sydd â chwant gwybod, neu â chwant cofio (neu â chwant codi ofn arnoch eich hun cyn camu i wersi yn y semestr newydd), mae ei orolwg o'r ferf Wyddeleg i'w weld nid yn unig yn gywir ond hefyd yn ffraeth.

Ac wrth sôn am flogiau pobl eraill, beth am hyn am syniad da - ceisio byw am fis heb blastig. Rydyn ni wedi cymryd cryn gamau fan hyn yn Boston St tuag at wneud y ty^ yn un di-fagiau plastig (drwy fynd â'n bagiau'n hunain bob tro i'r siop, sy' ddim yn rhy anodd, wedi'r cyfan) - ond mae'r her yma'n swnio'n un reit werth chweil.

Oes 'na rywun arall fyddai â chwant ymuno â mi i geisio? Beth am fyw am un mis yn ddi-wastraff (h.y. dim byd 'disposable' sydd ddim yn cael ei ail-gylchu'n llwyr, a dim defnydd di-angen o bethau gwirion megis cloriau ar gwpanau coffi... neu'r cwpanau eu hunain, wrth feddwl amdani) - fyddai hynny'n bosibl?

Ac ar y trywydd gwyrdd yma, i'r rhai ohonoch chi sy' heb ei weld hi, beth am tsiecio rhaglen newydd Ifor ap Glyn, Popeth yn Wyrdd - nid y peth gorau erioed, ond eto'n ddigon o hwyl ac mae egni ac asbri Ifor i'w rhyfeddu.

Saturday, July 26, 2008

cwestiwn harfardaidd

hei bawb, ga' i ofyn ichi gwestiwn hurt?
ffordd rwyt ti'n gwybod ydy'r brifysgol 'di rhoid gradd iti? sa' i'n gwybod ydw i 'di ennill gradd "masters" neu beidio.

rwy'n hanner cofio llenwi ffurflen gais y llynedd, ond mae'n debyg ifi wneud cawlach ohoni am na chlywais i ddim rhagor yn ei gylch. (rwy 'di treio chwilio am f'enw i ar y we rhag ofn y bydd rhaglen o ryw seremoni rywle yna.)

Wednesday, July 09, 2008

Ardderchog, ardderchog, ardderchog . . .

tipyn o "bropaganda dyneiddiol" am bawb . . . jyst gwyliwch a gwenwch . . . !!



: )

Friday, July 04, 2008

sorted am y tro

llun hyfryd o fawrth - gw. uchod. ond gwneud awgrym gwell caiff e ei newid.

Wednesday, June 25, 2008

compter gaaames

hei bawb,
ch'weld y "b" fach oren 'na ar ben y dudalen hon? yr un sy'n dod jest o flaen cyfeiriad y blog yn y blwch hirsgwar yn y toolbar?

ie, 'na hi. mae'n rhaid cael gwared arni. (cerwch i'm blog i i weld yr effaith.)

yr unig gwestiwn yw: "beth i'w roi yna yn ei lle?" (rhaid dewis rhyw lun a fydd yn edrych yn ocê yn fach fach - rhywbeth ac ychydig iawn o fanylion iddo.)

Monday, June 23, 2008

dolen - puss and pup

dyma un o'm hoff bethau i ar y we ar hyn o bryd:
tales of puss and pup

pam? achos rwy'n leicio'r lluniau, rwy'n dwlu ar y teitl, ac mae'r llun o'r awdur yn wych.
(paid â boddran edrych arno os oes gennyt rywbeth pwysig i'w wneud, neu ei di'n grac am 'mhen i mae'n siwr.)

Tuesday, June 17, 2008

hedfan i gymru!

newydd glywed bod kasi a becky yn cael gwneud cyrsiau iaith yng nghymru dros yr haf i ddod. mae hyn mor wych, ac rwy mor falch bod hyn yn bosibl i'r ddwy ohonoch chi!

ychydig o fanylion plîs! e.e. ble? aros mewn coleg neu beth? ych chi'ch dwy'n mynd i'r un lle? ac am faint o amser?

Monday, June 09, 2008

Pethau rhyfedd :)

Sut mae, pawb! Dw i'n gobeithio eich bod chi 'n iawn :) Aled, yn ni 'n dy golli di! Mae 'r tŷ yn teimlo yn wag iawn hebddot ti.

Roeddwn i eisiau dweud wrthoch chi ein bod ni wedi bod yn gwrando ar Mim Twm Llai (O'r Sbensh) yn y siop erbyn hyn, a mae 'r merched yn mwynhau ef. Fi hefyd! :)

Esgusodwch fi - mae fy nghymraeg i wedi dod yn warthus. You wouldn't have understood this if Matthieu weren't around to proofread. Bleagh! Dw i'n gobeithio y daw ef yn ôl.

Tuesday, June 03, 2008

"Philologist"


Dwi'n darllen "Lavengro" (1851) gan George Borrow, awdur o "Wild Wales"). Mae'n wych! Gwrandewch:

"A strange language that!" said a young officer to my father, "I don't understand a word of it; what can it be?"

"Irish," said my father, with a loud voice, "and a bad language it is; I have known it of old, that is, I have often heard it spoken when I was a guardsman in London. There's one part of London where all the Irish live -- at least all the worst of them -- and there they hatch their villanies and speak this tongue; it is that which keeps them together and makes them dangerous. I was once sent there to seize a couple of deserters -- Irish -- who had taken refuge among their companions; we found them in what was in my time called a ken, that is, a house where only thieves and desperadoes are to be found. Knowing on what kind of business I was bound, I had taken with me a sergeant's party; it was well I did so. We found the deserters in a large room, with at least thirty ruffians, horrid looking fellows, seated about a long table, drinking, swearing, and talking Irish. Ah! We had a tough battle, I remember; the two fellows did nothing, but sat still, thinking it best to be quiet; but the rest, with an ubbubboo, like the blowing up of a powder magazine, sprang up, brandishing their sticks; for these fellows always carry sticks with them, even to bed, and not unfrequently spring up in their sleep, striking left and right."

"And did you take the deserters?" said the officer.

"Yes," said my father; "for we formed at the end of the room, and charged with fixed bayonets, which compelled the others to yield notwithstanding their numbers; but the worst was when we got out into the street; the whole district had become alarmed, and hundreds came pouring down upon us -- men, women, and children. Women, did I say! -- they looked fiends, half naked, with their hair hanging down over their bosoms; they tore up the very pavement to hurl at us, sticks rang about our ears, stones, and Irish -- I liked the Irish worst of all, it sounded so horrid, especially as I did not understand it. It's a bad language."

"A queer tongue," said I, "I wonder if I could learn it?"


(Wrth gwrs, dysgodd George Wyddeleg a Chymraeg hefyd. Dwi'n rili rili mwynhau'r llyfr 'ma!)