Wednesday, April 09, 2008

Rhwystredigaethau

Yn dilyn sgwrs gydag un o selogion y blog y diwrnod o'r blaen, es i at y geiriaduron i geisio gweld faint o gymorth oedd yno i'n helpu i ddeall pa arddodiaid i'w defnyddio mewn ymadroddion penodol.

Y gair dan y chwyddwydr oedd "enwog", a'r cwestiwn syml oedd sut i gyfieithu "He's famous for such-and-such".

Es i yn gyntaf at Eiriadur yr Academi ond methu â gweld dim byd
Yna es i at eiriadur Gareth King (Rhydychen): dim byd
Wedyn geiriadur Heini Gruffudd: dim byd
Felly mewn rhwystredigaeth es i at Eiriadur Prifysgol Cymru a chwilio'r dyfyniadau dros y canrifoedd: dim oedd dim!

A dyna'r geiriaduron i gyd a oedd yn y llyfrgell (wel, edrychais i ddim yng Ngeiriadur Pugh, na Salesbury, na Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg, rhaid cyfaddef - meddwl am y dysgwr bach cyffredin roeddwn i).

Rwy'n cofio Asuka yn sôn mewn edefyn o'r blaen am lyfr Pa Arddodiad gan D. Geraint Lewis. Doeddwn i ddim yn ffan mawr o'r llyfr hwnnw o'r blaen - fy marn amdano oedd ei fod yn rhoi rhy ychydig o wybodaeth am wir ystyron y cyfuniadau sy'n cael eu rhestru (h.y. dim cyd-destun semantig, dim cynodiadau). Ond ar ôl gweld nad oes 'na'r un dim yn y geiriaduron, rhaid imi gyfaddef imi ddod yn ffan dros nos, a fy mod ar fy ffordd rwan hyn i'r siop lyfrau i archebu copi.

Pa rwystredigaethau eraill sy'n llechu ym myd y dysgwr? Beth sydd (neu beth oedd) yn eich gyrru chi'n benwan, neu'n cosi traed eich ymennydd?

8 comments:

Malone said...

Be' sy'n cosi traed f'ymennydd? Wel, dim byd yn siwr ar ôl i mi astudio Hen Wyddeleg am flynyddoedd!!

Ti'n gallu ffeindio "famous for" yn y geiriadur idiomau gan Alun Rhys Cownie. Dydy'r ymadrodd'na ddim yn y rhan Cymraeg, ond yn y rhan Saesneg. Od, on'd ydy?

Malone said...

O, a "henwog am" ydy "calque" hefyd, on'd ydy?

Gwybedyn said...

Yn y wers Gymraeg heddiw roedd rhai pethau eithaf cymhleth dan sylw (cysyllteiriau) ac mi ddywedodd yr athro, er mwyn codi hyder y myfyrwyr, "Hei - os yw hi'n bosibl dysgu Hen Wyddeleg...!"

ac ymateb un o'r myfyrwyr oedd:

"Ond rydw i'n leicio Hen Wyddeleg."

!!!

Rhaid gwneud gramadeg y Gymraeg yn anos, fel bod mwy o bobl yn ei leicio!

:)

Malone said...

Paid â fy nghamddeall i, chwilen. Rwy i'n hoffi Hen Wyddeleg hefyd. Ond rwy i wedi syrthio mewn cariad gyda Chymraeg!

(fi a Hen Wyddeleg? jyst ffrindiau.)

;)

Rhys Wynne said...

Beth am 'Mae'n adnabyddus am...'?

asuka said...

geiriadur yr academi, tra'n chwilio am eiriau diweddar - jest achos mae hwnnw'n hen (yn barod).
enghreifftiau o'r geiriadur:

"vegetarian" (enw) = "llyfwytäwr/aig"; "cigwrthodwr/aig"
mae'r geiriau 'na'n *bodoli* wrth gwrs, ond f'argraff i yw taw "llysieuwr/aig" sy'n ennill y dydd erbyn hyn ac 'sdim sôn am hwnnw yn y geiriadur.

"complement" (gramadegol) = "cyflenwad"
digon teg, ond "dibeniad" yw'r gair mae PWT *a* david thorne yn ei ddefnyddio.

os bydda i'n chwilio am air diweddar braidd, fel arfer bydda' i'n edrych yng ngeiriadur yr academi i ddechrau... a gwneud ambell i googlefight wedyn! nid y golygyddion sydd ar fai - yr iaith sydd ar fai am newid yn rhy glou! (neu falle taw y fi sydd ar fai am fod yn rhy siêp i brynu'r golygiad newydd) :)
ond dyna rwystredigaeth: gorfod defnyddio'r rhyngrwyd fel geiriadur cymraeg bob tro.

Gwybedyn said...

'Seph: wnes i ddim o'th gamddeall, paid becso; ac nid ymosod ar y Gymraeg oedd y fyfyrwraig yn bwriadu'i wneud, chwaith ond meddwl fy mod innau'n ymosod ar yr Hen Wyddeleg - jest bod ei hamddiffyniad yn swnio braidd yn wrthwynebus i'r Gymraeg (drwy ddamwain).

Rhys Wynne: na, s'mo 'enwog am' nac 'adnabyddus am' yn yr un o'r geriaduron hyn (am a welais i).

Gwybedyn said...

am wn i, Asuka, does dim golygiad newydd o Eiriadur yr Academi wedi ymddangos. Mae 'cywiriadau ac atodion' (neu rywbeth o'r fath) ar gwt y fersiwn diwygiedig, ond mae corff y geiriadur yr un fath.

dyna rwystredigaeth - aros o hyd am Eiriadur Collins neu Eiriadur Oxford o'r maint iawn (a chyda'r iaith safonol ynddi), fel sydd ar gyfer ieithoedd 'go iawn' y byd 'ma!