falle bod gwanwyn ar y ffordd o'r diwedd. ddyweda' i ddim iddi beidio â bwrw dim cesair o gwbwl dros y sul - ond llai na'r arfer bendant!
shwt mae ddi lle rych chi i gyd, gyfeillion?
Wednesday, April 16, 2008
gwanwyn
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
32 comments:
Mae'r tymheredd wedi bod rhwng 27 ac 80F yr wythnos ma. Roedd y blodau'n edrych yn drist ryw fore oer. Ond dw i ddim yn meddwl byddwn ni'n llosgi tân mwyach. Wel, dw i ddim yn siwr 100 y 100 wrth gwrs. ^_^
diolch! mae ddi wir yn ddiddorol gweld y tymereddau - a finnau'n dod o awstralia, does fawr o syniad 'da fi am dywydd oklahoma nac am y rhan fwyf o uda. yn araf bach rwy'n dysgu am ddaearyddiaeth ein gwlad newydd! *^_^*
Diwrnod gwych yma heddiw - a cherflun John Harvard ei hun yn chwysu, meddai rhai.
Hei, 'Suk,
Beth am iti sôn ychydig bach yn rhagor wrthyn ni am sut mae pethau'n mynd gyda'r Gymraeg yno ym Mangor?
Math o "Ddyddiadur Dyn Dŵad" newydd.
Byddwn i wrth fy modd yn clywed sut mae llwythau Bangor yn ymateb i ddyfodiad Awstraliad rhugl ei Gymraeg. Rhaid dy fod di'n dipyn o sioc a rhyfeddod i ambell i un ohonyn nhw. (A hynny nid yn unig oherwydd dy ddewis o ffilmiau!) ;)
syniad da - 'sdim "storïau" 'da fi ar hyn o bryd, ond treia' i dalu rhagor o sylw i 'mywyd!
rwy'n disgwyl clywed straeon fydd yn disgrifio dy fywyd di'n chwarae rhan Seibr-Suka, cymeriad allan o nofel freuddwyd Anime gan Dewi Prysor!
ife lan yn hwyr mae'r chwilen? neu wedi codi'n gynnar?
ik ik
(meddai chwilen sy' heb gysgu)
chwilen druan. gobeithio gelli di ffeindio cornel dawel yn y colocwiwm neu soffa i gael hoe o dani.
Mi faswn i'n hoffi clywed am dy fywyd ym Mangor hefyd, Asuka.
szczeb, beth am sgwennu am gwrs Cymraeg yn Harvard? Fedra i ddim ffeindio unrhyw wybodaeth drwy google.
Beth ydy "ちいいい"?
mae'n flin 'da fi - "chi" yw enw'r cymeriad yn y llun. mae hi'n gwneud y sŵn "chiiii!" trwy'r amser ac mae 'na hefyd gân yn y gyfres rywle ac ynddi'r geiriau saesneg "i hear you everywhere", felly...
sori nad yw'r eglurhad yn fwy diddorol neu ddifyr!
rwy'n addo sgrifennu am fangor yn fuan, ac rwy'n cytuno'n llwyr y dylai szczeb a'r lleill ddigsrifio beth sy'n mynd ymlaen yn eu cyrsiau cymraeg nhw - rwyf finnau am wybod hefyd!
rwy'n gwybod hyn: os dilyni di'r ddolen "celtic 128" yn y rhestr sydd ar y blog, yna cei di weld rhan o wefan cwrs y tymor diwetha'. (dim ond rhan, rwy'n credu - rhaid wrth fewngofnodi fel aelod o'r dosbarth er mwyn gweld y cyfan).
sori, emma - gad ifi dreio osgoi'r amwysedd orgraffyddol: ちい yw enw'r cymeriad o achos mae hi'n gweud "tsiii! - tsii ! tsii ! tsiiiii!"
Diolch am y ddolen. Mae hi'n edrych yn wych.
leiciwn i wybod ffordd mae cymraeg yn cael ei dysgu ym mhrifysgol berkeley. maen nhw fel 'sen nhw'n cynnig gwerth dwy flynedd o wersi yn gymraeg cyfoes:
http://sis.berkeley.edu/catalog/gcc_list_
crse_req?p_dept_name=Celtic+Studies&p_
dept_cd=CELTIC
y nhw yw'r unig sefydliad yn uda (falle yn y byd tu fas i gymru!) sy'n gwneud hynny _hyd y gwn i._ ond ychydig iawn o wybodaeth galla' i ei ffeindio yn eu cylch ar y we.
"...hyd gwn i" - wrth gwrs y galla' i feddwl am sawl sefydliad nawr (e.e. ysgolion sadwrn yn yr ariannin). down i'm yn treio digio neb. ^_^;
Whiw! Wedi llwyddo i wasgu'r botwm cywir i fedru gadael sylwadau. Wn i ddim ydy'r holl Siapaneeg yma'n syniad heb ei broblemau (er mod i'n dal i fod yn barod i dderbyn bod na fwy ar yr ochr bositif na'r negatif o hyd).
Wrth sôn am sefydliadau lle mae 'na fwy nag un flwyddyn o Gymraeg yn cael ei dysgu - gwn fod Prifysgol Gatholic Lublin (Katolicki Uniwersytet Lubelski) yn cynnig dwy flynedd o dair awr yr wythnos (dweud 'cynnig' ydw i - y peth diwethaf glywais i roedd y gwersi'n ofynnol i bob myfyriwr Saesneg ond roedd newid ar droed); ar un tro roedd trydedd flwyddyn opsiynnol ar gael hefyd.
Beth am wneud rhestr o'r holl gyrsiau Cymraeg sydd ar gael dros y byd i gyd mewn sefydliadau addysg?
roedd y gosodiadau japaneg yn neis ac mae'r rhain yn dda 'fyd, ond dyweda' i hyn: erys y japaneg yn y teitl!
syniad da - dylen ni grynhoi rhestr fel 'na. rown i 'di anghofio y brifysgol yn lublin.
(gobeithio i bawb gael penwythnos hapus.)
mae'r blogiad "colgate" 'di cael ei roi 'nôl i mewn i'r tiwb, felly...
odi - digwyddodd, darfu...
(ches i ddim caniatâd gan neb i bostio'u lluniau yn gyhoeddus, felly meddwl wnes i y dangoswn nhw ichi am ennyd ac yna'u sychu)
... megis seren wib.
(cwestiwn: pwy biau'r dyfyniad?)
pa ddyfyniad? oes 'na ddyfyniad cudd rywle? (os taw at y dyfyniad o r.w.p. rwyt ti'n cyfeirio, rhaid iti dreio'n galetch O LAWER!)
:)
rwy'n leicio'r ffrangeg.
(ond rhaid cydnabod taw y japaneg yn y teitl oedd y syniad gorau erioed!)
Ie - mae'r teitl yn grêt. Tasai modd cael o gwmpas y lle ychydig o eiriau'n rhagor yn y ffont yna byddai'n dda iawn.
Mae'r Ffrangeg yn iawn, hefyd, ond beth am y Swedeg? Iaith an-ymerodraethol (wel, ers rhai canrifoedd, ta beth!), gydag acen anhygoel (yn enwedig fel mae'n cael ei siarad yn y Ffindir!).
mae'r swedeg yn dlws hefyd.
ar ôl ifi wneud ychydig o gyrsiau japaneg yng ngholeg obelin *am ddim*, falle y bydda' i'n gallu parhau gyda'r gwaith o japanegio harvard cymraeg! ^^
Dyna'r ffordd i fynd, heb os.
Trueni nad oes modd inni wneud y wefan hon yn dair-ieithog, neu hyd yn oed yn aml-
Rhyw fath o iaith-ar-hap fyddai orau - teulu iaith newydd bob pedair awr...
gallet ti droi'r penawdau i gyd (e.e. "ymweliadau tlws" ac ati) yn ddwyieithog tasai gen ti ddigon o amser sbâr! byddai ffrangeg, almaeneg a phwyleg yn man cychwyn neis.
Rwy'n sylwi imi beidio ag ymateb i ymholiad Emma Reese am gwrs Cymraeg Harvard. Mae'n ddrwg gen i am hynny.
Wn i ddim, Emma, a est ti at y cyfeiriad yma, ond dyna wefan y cwrs. Does fawr o wybodaeth yno, a dweud y gwir, ond ychydig o gyflwyniad i ambell i beth Cymraeg. Os wyt ti eisiau gwybod rhagor, mae croeso iti holi, wrth gwrs!
Diolch i ti szczeb am y ddolen. Dw i'n barod i fynd i'r cwrs na achos bod gen i'r llefrau i gyd gan G. King!
Mae o'n swnio'n dda. Wyt ti'n dysgu fel tiwtor weithiau?
byddaf yn galw heibio i'r gwersi yn reit aml. Mae'r myfyrwyr wedi bod yn rhai da iawn yn ddiweddar. Bydd y tymor newydd yn dechru ymhen wythnos - cawn weld beth ddigwyddiff!
'sdim dwywaith amdano fe - dyma oedd y post mwyaf llwyddiannus ar y blog hwn erioed o ran hybu trafodaeth! (^o^)
y llun pert oedd yn gyfrifol, am a wn i!
Post a Comment