Friday, April 18, 2008

celfyddyd ascii


gwnaeth gwenoglun diweddar emma reese f'atgoffa i am holl fyd rhagorol 'na celfyddyd ascii. sa' i'n credu 'mod i'n gweld cymaint ohoni o gwmpas ag rown i'n arfer. ydy'r grefft yn marw? drueni os felly. hei, oes hoff enghreifftiau o gelfyddyd ascii 'da chi? os oes, ar y blog â nhw! dyma ichi un o'm rhai i, llun o dri thotoro (creaduriaid mas o ffilm) - eitha' syml, ond effeithiol 'ta waeth am hynny ar wn i.

(nawr 'te, beth yw lluosog totoro? fe'i llunir ar batrwm niwtrino, siwr iawn... beth bynnag fo hwnnw!)

2 comments:

Emma Reese said...

Hey Asuka, mae hyn yn ddiddorol. Mi nes i ddangos y llun i un o fy mhlant iau. Ac mi naeth hi ebychu, "Totoro!!"

asuka said...

'na annwyl! mae 'na rywbeth hynod o ddifyr am luniau "low-res" y gelli di eu hadnabod. hei, rwy'n siwr gallai dy blant di wneud llun llawn cystal!