Sunday, April 06, 2008

Ali G

Un peth eto: ffeindiais y fideo hwn a meddyliais y byddech chi'n ei leicio!

4 comments:

Gwybedyn said...

:D

asuka said...

mae e'n f'atgoffa i o sgwrs gefais 'da boi ym mangor pwy ddiwrnod (A = boi; B = fi):

A: oh, you're learning welsh. yes, well i know a bit of welsh, you know. i've been living here for a while and you pick it up. you know the word "froth"?

B: "froth"? nooo...

A: "froth". it means "road". don't worry, you probably haven't learned it yet. you'll get there. just keep at it!

(a gweud y gwir, rwy 'di cael *sawl" sgwrs debyg ers pan ddechreuais i ddysgu cymraeg.)

Gwybedyn said...

mae'r boi ar y ffordd, siwr iawn, hyd yn oed os nad honno yw'r ffordd gywir i unlle!

rwy'n cofio rhai Saeson* uniaith oedd yn byw yng Ngwlad Pwyl a soniai wrthyf dro ar ôl tro nad oedd yr iaith Bwyleg mor anodd â hynny i'w dysgu "because it's really very Latin-based". Ches i erioed air o eglurhad ganddynt.

*nodyn PC: nid yw hi'n bwysig taw Saeson oeddynt - ffaith yn unig yw'r ffaith yna.

Edyta said...

Mae Ali G. yn doniol iawn! Doeddwn i ddim yn chwerthin mor galed ers amser. Diolch yn fawr, Becky.