Thursday, March 20, 2008

Peryglon y Cyfieithydd


Fel y gwyddoch, mae Olympics Beijing yn agosau, ac wrth i Tsieina baratoi am y dathliadau, mae rhaid iddyn nhw gyfieithu llawer o arwyddion, o'r Tsieniëeg i'r Saesneg. Mae hyn yn cynhyrchu lot o ddifyrrwch!

11 comments:

asuka said...

fydda' i byth yn deall y rheswm dros gyfieithiadau gwael. mae 'mrawd iau i'n siarad ac yn darllen tsieinëeg, a byddai fe'n fodlon troi'r arwyddion 'na i gyd yn saesneg am bris diod - a dim yr unig un mohono fe, mae'n siwr.

Gwybedyn said...

Mae'n debyg fod crysau'r bownsars yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn dweud "SECURITY - SICRWYDD".

(hynny oddi ar linyn o drafodaeth am gyfieithu gwael ar Maes-e.com

Gwybedyn said...

Mae'r rhian yn dda, hefyd:

1. Sainsburys yn Wrecsam â

Disabled Parking
Parcio i'r Analluog

2. Mewn caffi yn G'narfon:

Dibwys Ffrwythau : Fruit Trifle

3. Burger King Gaerdydd (wedi ei rwygo lawr gan sdiwdants pissed (:lol:)

Seating Area Upstairs - Arwynebedd Eistedd Lloft!

a rhaid imi grybwyll hwn, hefyd:

"Treforian a ddywedodd:
Be am ddechra cyfieithu enwa pobl yn llythrennol?
Justin Timberlake=Dim Ond yn Llyn y Coed"

asuka said...

ond *pa* frenin byrgars gaerdydd? yr un ar bwys neuadd dewi sant? :)
sa i'n gweld be' sy'n bod ar "ddibwys" - ar wahân i'r ffaith nad dyna'r gair.

Gwybedyn said...

hmmm... mi rwyt ti'n iawn, 'Suk. Does dim rheswm dros beidio â bachu'r term 'dibwys' (neu 'dibwysyn' efallai), nac oes?

Ew, mae 'na wybren hynod bert dros Cambridge heno - c'mylau o bob lliw yn symud yn gyflym dros las hwyr y prynhawn.

Gwybedyn said...

Peryglon cyfieithydd sy' gen innau ar hyn o bryd, wrth imi geisio gwneud bach o waith cartref Almaeneg. Y frawddeg hon sy'n peri problemau imi:

"Nur langsam verstanden die Deutschen, was die Gastarbeiter geleistet hatten und wie unfair sie von Regierung und der Gesellshcaft behandelt worden waren."

Dyma fyddai fy nghais ar ei gyfieithu:

"Mond yn ara' mae'r Almaenwyr yn deall, beth mae'r Gastarbeiter wedi cyfrannu, a pha mor annheg y cawson nhw eu neilltuo gan lywodraeth a chymdeithas."

Oes 'na rywun yno sy'n gallu dweud sut 'rwyf i fod i ddeall 'behandeln' yn y cyd-destun yma?

Gwybedyn said...

Mae'r rhan fwyaf o'r cyfieithiadau Tsieneeg-Saesneg yn hollol dderbyniol, on'd y'n nhw? Rwy'n cefnogi gant y cant y syniad o gyfieithu o fewn cyd-destun diwylliannol y wlad.

Eto, mae rhai ohonyn nhw'n ddoniol dros ben!

asuka said...

rwy'n leicio syniad y chwilen o "gyfieithu o fewn cyd-destun diwylliannol," ac rwy'n leicio'r arwyddion. mae ambell un yn well 'da fi nag fyddai cyfieithiad "go iawn". ond rwy'n ffaelu deall o hyd: rhaid bod beijing yn llawn pobl sy'n siarad saesneg, gan gynnwys miloedd o fyfyrwyr estron, saesneg eu hiaith gynta', fel mae cymru'n llawn pobl sy'n medru cymraeg.

asuka said...

a diolch i'r chwilen am rannu disgrifiad o'r wybren dros boston. lle pert iawn.
sori na alla' i dy helpu di gyda'r gwaith cartre'!

Gwybedyn said...

dim problem - mae'n eithaf hawdd wedi'r cyfan (behandeln: trafod, trin), felly nid cael eu neilltuo na'i esgymun oedden nhw, ond yn cael eu trin yn wael. (mae'n debyg).

Becky said...

Diolch yn fawr, Sarah.