Tuesday, March 18, 2008

hoff adnoddau dysgu cymraeg dysgwyr cymraeg


pa rei yw'ch hoff lyfrau/adnoddau chi ar gyfer dysgu/addysgu cymraeg? rwyf fi, emma reese a'r chwilen 'di bod yn trafod holl weithiau gareth king a geiriadur d. geraint lewis ymhlith pethau eraill. be' chi'n feddwl o'r rhain?
beth am lyfrau eraill d. geraint lewis, fel y llyfr berfau ac ati? oes rhywun 'di darllen teach yourself welsh grammar yn iawn eto? beth am y fersiwn cyfredol o teach youself welsh? pa mor "dda" yw cymraeg da heini gruffudd?
diddorol clywed am brofiadau gyda gwahanol fathau o stwff.

(pam mae 'na lun o'n cath ni yn y post 'ma? os oes rhaid iti ofyn hyn'na, mae'n amlwg nad oes gen ti gathod. ond hefyd, mae 'na lyfrau yn y llun. perthnasol, t'weld.)

5 comments:

Emma Reese said...

Dw i'n dal i ddisgwyl i rywun ddweud rhywbeth am y pwnc ma.

Dw i wedi prynu bron popeth sy ar gael i ddysgu Cymraeg. Llyfrau King ydy'r gorau, yn fy marn i.

Hefyd mi ddechreues i wneud Cwrs Pellach trwy'r post gan Brifysgol Bangor 4 mis yn ôl. Mae o'n ardderchog. Dw i wedi adolygu o'r dechrau yn fynwl a gwneud yn siwr mod i wedi dallt popeth yn iawn.

asuka said...

diolch am y sylw!

rwyf finnau'n hoff o lyfrau king hefyd (er nad yw e'n esbonio sut mae defnyddio'r geirynnau'n iawn, fel mae'n szczeb yn gweud). mae'r wybodaeth yn dda, rwy'n cofio joio ei recordiadau e, ac mae'r llyfrau'n *llawn* geirfa, sy'n beth da iawn. hefyd, rhaid gweud taw gyda nhw dechreuais i ddysgu cymraeg felly mae genny' deimladau twym a ffysi tuag atynt!

dau lyfr rwy'n dwlu arnyn nhw ac rwy'n dal i'w defnyddio trwy'r amser: "y llyfr berfau" a "pa arddodiad," y ddau gan d. geraint lewis. oes gen ti gopïau o'r rhain, ac os oes, beth yw dy farn tybed?

rwy'n llawn chwilfrydedd ynghylch y llyfr 'na y soniais amdano yn y post, "teach yourself welsh grammar." 'mond wedi edrych drosto rwy mewn siop lyfrau, ac yn glou iawn ar ben hynny, ac rwy'n ysu am gael ei ddarllen yn iawn. mae e'n newydd sbon, a golwg ddiddorol oedd arno.

hei, gwnes i gwrs pellach, drwy brifysgol caerdydd - joiais i fe'n fawr iawn! prifysgol bangor? oes ryfedd fod ti'n sgrifennu "mae o" a "dallt"?! :)

Emma Reese said...

Sgen i ddim llyfrau Lewis neu Teach Yrself Welsh Grammar, ond dw i wedi dysgu Teach Yrself Welsh a Welsh Rules gan Gruffudd.

Mae Teach yn iawn ond dw i ddim yn hoffi'r CDau. Mae'r siaradwyr yn swnio'n rhy stiff.

Dw i ddim yn hoffi Welsh Rules. Dydy'r cartŵns a'r lluniau ddim yn helpu o gwbl. Ac mae 'na ormod o gamgymeriadau yn y llyfr ymarfer.

Wyt ti'n meddwl prynu Teach Yrself Welsh Grammar, asuka? Mae o'n swnio'n rhy sylfaenol i ti.

Falch o glywed fod i wedi gwneud Cwrs Pellach hefyd (er bod o'n fersiwn Hwntw!)

asuka said...

waw - newydd fod yn edrych ar "welsh rules" ar wefan y lolfa, ac sa i'n nabod y teitl 'na. mae'n hysbysebu "2000 graded exercises". er mwyn dyn!!

asuka said...

diolch am rannu dy farn am "teach yourself welsh" - diddorol clywed meddyliadau am ansawdd y CDiau. ac rwy'n cytuno â ti'n llwyr ynghylch yr hen lyfrau 'na gan heini gruffudd a'r cartŵns ynddyn nhw - er bod ei becyn newydd e, "cymraeg da", yn edrych yn hollol werth chweil. mae e'n cynnwys lot o stwff, beth bynnag.
"teach yourself welsh grammar" - sa i'n gwybod fyddwn i'n dysgu dim newydd ohono neu beidio, ond gall fod yn ddiddorol gweld agwedd newydd ar bethau. a gweud y gwir, rwy'n dwlu cymaint ar ramadeg gymraeg fel y bod diddordeb mawr 'da fi mewn darllen gwahanol esboniadau, dysgu termau newydd am hen bethau hyd yn oed!
rwy'n darllen drwy "gramadeg y gymraeg" gan peter wynn thomas ar hyn o bryd. mae hwnnw'n wych o lyfr, ond yn ddwys iawn, ac wedi 'ei gyfansoddi yn y fath ffordd fel bod rhaid, mi gredaf, ddarllen y gyfrol i gyd i ddeall unrhyw adran ohoni! gwaith araf felly.