Monday, January 14, 2008

Pant-llech-ddu

Un bach arall - y tro hwn dyma'r haul canol dydd yn isel trwy'r coed. Codwyd y siediau hyn ar seiliau'r hen dy^ hir, lle trigai'r bobl cyn codi'r ffermdy presennol ryw ganllath i'r de.

8 comments:

Malone said...

Beth ydy'r coed 'na yn y cefndir? Deri?

asuka said...

lluniau gwych - diolch am eu postio nhw. os na weithiff y radd 'na mas gallet ti gynhyrchu calendrau rhandir-mwyn - byddwn i'n prynu un!
rwy'n dwlu ar ffordd mae'r coed agosaf yn y llun cynta' fel 'sen nhw ar y gorwel a nhwthau'n sefyll mor syth o flaen y niwl.
beth yw enfys wen?

Gwybedyn said...

S'mo i'n cofion beth yw'r coed i gyd. Ond mae 'na dderi yn eu plith, mae'n siwr yn ogystal ag ambell i gollen a pheth coed ysgaw...

Gwybedyn said...

errata:

1 "s'mo i'n cofio"
2 "mae'n siwr, yn ogystal â"

asuka said...

anhofio atalnod! beth nesa', szch?

asuka said...

beth yw enfys wen? enfys sy'n wyn? rwy'n ffaelu ei dychmygu.

Gwybedyn said...

iep - enfys wen - enfys sy'n wen, i'w weld yn y niwl, a thrwy'r niwl, ond bod hi bron yn gron yn lle'n hanner crwn, a'th gysgod i'w weld yn eithaf clir yn ei chanol hi. Mae'n hynod, yn enwedig y tro cyntaf iti'i gweld hi.

Gwybedyn said...

wps - sori, gwall arall yn fan'na!