Saturday, January 12, 2008

Nid oes modd dianc yn bur.

Swnio fel bywyd academaidd. Neu'r "newrosis" y soniodd Ned Thomas amdani wrth ddisgrifio'r iaith Gymraeg!

Ond ta waeth am hynny; rhaid taw hon yw ffilm orau'r flwyddyn (a'r llynedd, hefyd).

Ewch, bobl da, ac anghofiwch eich prosesyddion geiriau a'ch geiriaduron am ychydig oriau.

5 comments:

asuka said...

gwell nag "alien vs. predator: requiem"? anodd yw ei gredu!

Malone said...

Dwi wedi ychwanegu'r 'trailer' hefyd.
Mwynhewch!

Ydych chi wedi gweld y ffilm "There Will Be Blood" gyda Daniel Day-Lewis? Dwi wedi clywed pethau da iawn am honna hefyd.

asuka said...

rwy'n dwlu ar rei ffilmiau gan y brodyr coen (e.e. barton fink, fargo, raising arizona) ond mae 'na rei eraill nad own i'n eu joio o gwbl (e.e. the hudsucker proxy). rwy'n frwd o weld yr un newydd i weld i ba ddosbarth ma'i'n perthyn!

Gwybedyn said...

Clywais i fod '...Blood' yn dda, hefyd - rhai adolgwyr yn awgrymu taw rhwng y ddwy hyn yn unig fydd yr ornest am yr Oscar. Rhaid mynd i'w gwylio.

Yn yr achos hon hefyd rwy'n cytuno gyda'r rhan fwyaf o'r beirniaid - dyma'r ddau frawd ar eu gorau drachefn, a'r ffilm hon lawn cystal â Fargo, Lebowski neu O Brother... a hyd yn oed yn well. Aw, rwy'n dal i fyw rhai o'r golygfeydd yno... a'r cymeriadau! Fel y dywedodd beirniad o RTE - 'lle buon nhw drwy gydol fy mywyd hyd yma?' rhaid bod rhywbeth o'i le: doeddwn i ddim yn gyflawn a doeddwn i ddim yn gwybod hynny!

asuka said...

ych chi 'di sylwi ar y trwyn sy gyda'r dyn yn y furlen? waw - 'na drwyn ichi!