Tuesday, December 25, 2007

Heddiw'n fore.

Nadolig Llawen ichi, a Nadolig tlws, hefyd!

Newydd ddychwelyd o'r eglwys, lle y buom yng ngolau canhwyllau yn dathlu Gwasanaeth Plygain, yr hen draddodiad Cymreig sy'n dod yn boblogaidd unwaith eto.

Wedyn, aethom ni o'r eglwys i'r dafarn am wydraid o win coch poeth o flaen y tân!

Yn ôl gartref 'nawr, a rhaid paratoi ar gyfer cinio.

Mwynhewch y diwrnod, ym mhedwar ban byd!

4 comments:

Malone said...

Nadolig llawen, Chrzszcz ac Asuka! Dymuniadau gorau ar gyfer y flwyddyn newydd i'r dau ohonoch chi hefyd!

Gwybedyn said...

Neis dy weld di yma, Persephone - cymer gadair wrth y tân ac estyn gwydr i gael ei lenwi â rhywbeth blasus!

Malone said...

mmmm . . . rhywbeth blasus . . . cadair wrth y tân . . . dwi'n meddwl mod i'n hoffi'r lle 'ma!

asuka said...

dolig llawen ichi, szch a persephone!
ond pwy sy eisiau tân a'r awyr mor dwym ac awel ysgafn mor hyfryd yn y dail uwchben?
mae'n dwym yma - tywydd twym a pherffaith. newydd ddychwelyd o melbourne rwyf fi, lle ro'n ni'n treulio pob prynhawn yn pwll nofio, ac es i i'r traeth yn sydney ddoe (traeth bronte os oes gan neb ots). a oedd yn hyfryd - er bod y prif draeth ar gau o achos y tonnau enfawr. felly es i i nofio yn y baddonau wrth ymyl y traeth a joiais yr ewyn a'r tonnau'n dod dros y wal o'r môr.
byddwn ni'n mynd lan yr arfordir fory mae'n debyg i dreulio cwpl o ddiwrnodau ar lynoedd tuggerah, lle mae gan fy nheulu i hen dy^ wrth ochr afon wyong. cefais anrheg nadolig neis hefyd - copi o ramadeg john morris-jones - rhywbeth i'w ddarllen wrth ymlacio ar y feranda.
beth ro'n i'n bwriadu dod 'nôl? rhaid bod 'na reswm ond rwy'n ffaelu ei gofio reit ar y foment...
blwyddyn newydd dda i bawb!